Polisi Preifatrwydd

Polisi preifatrwydd a cwcis

Rydym yn cymryd cyfrinachedd a phreifatrwydd ein defnyddwyr o ddifri. Gan ein bod yn casglu mathau arbennig o wybodaeth am ein defnyddwyr, rydym yn awyddus i chi ddeall y telerau a’r amodau sydd ynghlwm wrth gasglu a defnyddio’r wybodaeth honno. Mae’r datganiad preifatrwydd hwn yn datgelu pa fath o wybodaeth rydym yn ei chasglu a sut rydym yn ei defnyddio.

Mae gwefannau www.ffolio.cymru, www.llyfrau.cymru (cyn hynny’n www.cllc.org.uk), www.books.wales (cyn hynny’n www.wbc.org.uk), www.yfasnachlyfrau.org.uk a www.gwales.com yn eiddo, ac yn cael eu gweinyddu gan:

Cyngor Llyfrau Cymru

Castell Brychan

Aberystwyth
Ceredigion
Cymru
SY23 2JB
Ffôn: 01970 624151
Ffacs: 01970 625385
E-bost: [email protected]
Rhif Cofrestru TAW: GB123 0426 23
Rhif Elusen: 505262

Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau am y datganiad preifatrwydd hwn, neu am unrhyw agwedd arall o’n rhwydwaith, at y Prif Weithredwr yn y cyfeiriad uchod.

Efallai y byddwn yn casglu ac yn prosesu’r data canlynol amdanoch:

  • gwybodaeth rydych yn ei chyflwyno drwy lenwi ffurflenni a phrynu o’n gwefannau;
  • cofnod o unrhyw ohebiaeth pan fyddwch yn cysylltu â ni;
  • manylion unrhyw brynu a gwerthu a wnewch trwy ein gwefannau;
  • manylion eich ymweliadau â’n gwefannau gan gynnwys data trafnidiol, data lleoliad, blogiau a data cyfathrebu arall a’r adnoddau y byddwch yn cael mynediad iddynt, ond heb fod yn gyfyngedig i’r rhain.

Bydd y data y byddwn yn ei gasglu amdanoch yn cael ei gadw yn unol â Deddf Diogelu Data 1998. Gall gael ei drosglwyddo a’i gadw mewn lleoliad sydd y tu allan i Ardal Economaidd Ewrop (EEA). Hefyd, gallai gael ei brosesu gan staff y tu allan i’r Ardal Economaidd hon sy’n gweithio i un o’n cyflenwyr. Drwy gyflwyno’ch data personol, rydych yn cytuno i’r trosglwyddiad hwn a’n dulliau o gadw a phrosesu’r data. Byddwn yn cymryd pob cam rhesymol angenrheidiol er sicrhau bod eich data yn cael ei drin yn ddiogel ac yn unol â’r polisi preifatrwydd hwn.

Rydym yn defnyddio’r wybodaeth sydd gennym amdanoch am y rhesymau canlynol:

  • i sicrhau bod cynnwys ein gwefan yn cael ei gyflwyno yn y ffordd fwyaf effeithiol ar eich cyfer chi a’ch cyfrifiadur;
  • i ddarparu gwybodaeth, cynnyrch neu wasanaethau rydych chi wedi gwneud cais i ni amdanynt neu rydym yn teimlo a allai fod o ddiddordeb i chi, a chithau eisoes wedi cytuno i dderbyn deunydd o’r fath. Nid anfonir gwybodaeth marchnata atoch heb eich caniatâd ymlaen llaw;
  • i’ch hysbysu am newidiadau i’n gwasanaethau.

Nid ydym yn rhoi gwybodaeth i gwmnïau eraill a allai olygu eich bod yn cael eich adnabod.

O bryd i’w gilydd gall ein safle gynnwys dolenni i wefannau eraill. Os byddwch yn dilyn dolen i unrhyw un o’r gwefannau hynny, sylwch fod gan y gwefannau hynny eu polisïau preifatrwydd eu hunain ac nid ydym yn derbyn cyfrifoldeb am y gwefannau hynny nac yn atebol amdanynt. Gwiriwch y polisïau hyn cyn i chi gyflwyno unrhyw ddata personol i’r gwefannau hyn.

Beth yw cwcis?

Ffeil destun fechan yw cwci; caiff y ffeil hon ei chadw ar eich cyfrifiadur neu eich teclyn symudol gan weinydd gwefan a dim ond y gweinydd fydd yn gallu adalw neu ddarllen cynnwys y cwci hwnnw. Mae pob cwci yn unigryw i’ch gwe-borwr. Bydd yn cynnwys rhywfaint o wybodaeth ddienw fel dynodydd unigryw, enw’r safle a rhai digidau a rhifau. Mae’n caniatáu i wefan gofio pethau fel eich dewisiadau neu beth sydd yn eich basged siopa.

Bydd y rhan fwyaf o wefannau’n defnyddio cwcis i wella profiad y defnyddiwr drwy alluogi’r wefan i’ch ‘cofio’, naill ai yn ystod eich ymweliad (gan ddefnyddio ‘cwci sesiwn’) neu ar gyfer ymweliadau eraill yn y dyfodol (gan ddefnyddio ‘cwci parhaus’). Dyma sut mae Ffolio yn gweithio.

Sut caiff cwcis eu defnyddio ar Ffolio?

Mae cwcis ar Ffolio yn gwneud sawl peth gwahanol, fel caniatáu i chi symud o un dudalen i’r llall yn hwylus, storio eich dewisiadau, a gwella eich profiad ar y safle. Mae cwcis yn ei gwneud yn haws ac yn gynt i chi ddefnyddio Ffolio. Pe na bai Ffolio yn defnyddio cwcis, byddai’r rhaglen yn meddwl eich bod yn ymwelydd newydd bob tro y byddech yn symud i dudalen newydd ar y safle – er enghraifft, ar ôl i chi fewngofnodi a symud i dudalen newydd ni fyddai’n eich adnabod ac ni fyddai modd i chi aros wedi’ch mewngofnodi.

Bydd rhai gwefannau hefyd yn defnyddio cwcis i dargedu eu negeseuon hysbysebu a marchnata ar sail eich lleoliad a/neu eich arferion pori, er enghraifft. NID yw Ffolio yn gwneud hyn.

Yr enw ar y cwcis a osodir gan Ffolio yw ‘cwcis parti cyntaf’, a’r enw ar gwcis a osodir gan wefannau eraill sy’n dangos cynnwys ar y dudalen yr ydych yn edrych arni yw ‘cwcis trydydd parti’.

Beth i’w wneud os nad ydych am i ni osod cwcis

Nid yw rhai pobl yn gyfforddus ‘r syniad fod gwefan yn storio gwybodaeth ar eu cyfrifiadur neu ddyfais symudol, ac yn arbennig felly pan gaiff yr wybodaeth ei storio a’i defnyddio gan drydydd parti heb yn wybod iddynt. Er bod hyn fel rheol yn ddigon diniwed efallai na fyddwch, er enghraifft, am weld hysbysebu wedi’i dargedu at eich diddordebau. Os hoffech wneud hynny, mae modd atal rhai cwcis neu bob un ohonynt, neu hyd yn oed ddileu cwcis sydd eisoes wedi’u gosod; ond fe allech golli rhai o swyddogaethau’r wefan.

Cwcis parti cyntaf

Gosodir cwcis parti cyntaf gan y wefan rydych yn ymweld – hi (sef Ffolio.com y tro hwn) a dim ond y wefan honno fydd yn gallu eu darllen.

Cwcis trydydd parti

Gosodir cwcis trydydd parti gan sefydliad arall, ac nid gan berchennog y wefan rydych yn ymweld – hi. Er enghraifft, efallai y bydd y wefan yn defnyddio cwmni dadansoddi trydydd parti a fydd yn gosod ei gwcis ei hunan er mwyn darparu’r gwasanaeth hwnnw. Ar rai tudalennau llyfryddol ar wefan Ffolio efallai y bydd cynnwys wedi’i fewnblannu, er enghraifft o YouTube neu Flickr, ac efallai y bydd y safleoedd hyn yn gosod eu cwcis eu hunain.

Yn fwy arwyddocaol, gallai gwefan ddefnyddio rhwydwaith hysbysebu trydydd parti i gyflwyno hysbysebion wedi’u targedu ar y wefan honno. Mae’n bosib y gallai’r rhain hefyd olrhain eich arferion pori ar wefannau eraill. Mae’n bwysig nodi NA osodir cwcis hysbysebu ar gyfer ymwelwyr – gwefan Ffolio.

Cwcis sesiwn

Caiff cwcis sesiwn eu storio dros dro yn ystod sesiwn bori a’u dileu o ddyfais y defnyddiwr pan gaeir y porwr.

Cwcis parhaus

Caiff y math hwn o gwci ei gadw ar eich cyfrifiadur am gyfnod penodol (am flwyddyn ar Ffolio) ac ni chaiff ei ddileu pan gaeir y porwr. Defnyddir cwcis parhaus pan fydd angen i ni wybod pwy ydych chi am fwy nag un sesiwn bori. Er enghraifft, defnyddiwn y math hwn o gwci i storio eich dewisiadau megis dewis iaith, a’r hyn yr ydych wedi’i roi yn eich basged, er mwyn i ni eu cofio’r tro nesaf y byddwch yn ymweld ‘r wefan.

Sut mae Ffolio.com yn defnyddio cwcis?

Mae cwcis yn ein galluogi i gynnig y gwasanaeth chwilio a phrynu ar Ffolio. Rydyn ni’n defnyddio cwcis sy’n gwbl angenrheidiol er mwyn i chi allu symud o gwmpas y safle ac i ddarparu rhai nodweddion sylfaenol. Heb gwci ni fyddai’r safle’n cofio ym mha iaith y buoch yn edrych ar y wefan, nac ar ba dudalen chwilio roeddech chi, na beth rydych chi wedi ei roi yn eich basged. Rydym hefyd yn defnyddio’r un cwci i’ch adnabod ar ‘l i chi fewngofnodi i’r safle.

Nid ydym yn gwerthu’r wybodaeth a gesglir gan y cwcis ac nid ydym chwaith yn datgelu’r wybodaeth i drydydd parti, ac eithrio pan fo’r gyfraith yn mynnu ein bod yn gwneud hynny (er enghraifft, i gyrff y llywodraeth ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith).

Enghreifftiau o gwcis sy’n gwbl angenrheidiol a osodir gan Ffolio.com

Enw’r cwciMathDiben
GSIDParhausMae’r cwci hwn yn nodi eich sesiwn bori ac yn sail i’ch holl ddewisiadau, eich canlyniadau chwilio, eich basged siopa a’r man talu.
SIDSesiwnMae’r cwci hwn yn olrhain y tudalennau yr ydych yn ymweld – hwy mewn sesiwn er mwyn i chi allu dychwelyd i dudalennau blaenorol (‘yn ‘l i dudalen: x’). Caiff ei ddileu pan fyddwch yn cau’r porwr.
SSIDSesiwnMae’r cwci hwn yn olrhain y tudalennau HTTPS diogel y byddwch yn ymweld – hwy megis yr adrannau ‘Man talu’ a ‘Fy Nghyfrif’ ac yn caniatáu mynediad am gyfnod penodol unwaith y bydd wedi’i ddilysu. Caiff ei ddileu pan fyddwch yn cau’r porwr.
utm(a-z)Trydydd partiMae’r cwcis hyn yn ymwneud – Google Analytics a ddefnyddir gennym i olrhain tueddiadau defnyddio’r safle er mwyn ei wella.