Sefydlwyd y wobr hon er mwyn coffáu cyfraniad sylweddol ac unigryw Mary Vaughan Jones i faes llenyddiaeth plant yng Nghymru. Cyflwynir y wobr bob tair blynedd i berson am gyfraniad arbennig i faes llyfrau plant yng Nghymru dros gyfnod o flynyddoedd.
PWY OEDD MARY VAUGHAN JONES?
Ym 1983, bu farw Mary Vaughan Jones, un o brif gymwynaswyr llenyddiaeth plant yng Nghymru. Yn ystod ei gyrfa bu’n dysgu yn Ysgol Gynradd Cwm Penanner (1940 – 43), Ysgol Lluest Aberystwyth (1943 – 49), Ysgol Baratoad Aber-mad (1949 – 53) ac yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth (1953 – 58). Ym 1958 derbyniodd swydd yn y Coleg Normal, Bangor fel darlithydd – swydd a lanwodd hyd 1972.
Roedd Mary Vaughan Jones yn athrawes ysbrydoledig, a bu ei chyfraniad fel darlithydd coleg o werth amhrisiadwy i addysg Gymraeg, ond mae’n debyg mai ei chyfraniad mwyaf gwerthfawr, er hynny, oedd ei chyfraniad cyfoethog a chyson i faes llenyddiaeth plant Cymru dros gyfnod o ddeng mlynedd ar hugain ymron, a hynny er gwaethaf brwydr boenus yn erbyn afiechyd cynyddol. Cyhoeddwyd tua deugain o’i llyfrau, a chyfrannodd yn rheolaidd i gylchgronau’r Urdd.
PAM FOD Y WOBR YMA YN BWYSIG?
Tlws Mary Vaughan Jones yw’r anrhydedd uchaf ym maes llyfrau plant yng Nghymru a dylid ei ystyried yn goron ar yrfa’r enillydd. Ni ddylid eithrio enillwyr gwobrau unigol, megis Tir na n-Og, wrth ystyried teilyngdod ar gyfer yr anrhydedd hwn.
ENILLWYR
1985 Ifor Owen
1988 Emily Huws
1991 T Llew Jones
1994 W J Jones
1997 Roger Boore
2000 J Selwyn Lloyd
2003 Elfyn Pritchard
2006 Mair Wynn Hughes
2009 Angharad Tomos
2012 Jac Jones
2015 – Siân Lewis
2018 – Gareth F Williams
2021 – Menna Lloyd Williams