Problemau lawrlwytho eLyfr

Dylai eich llyfr fod yn ymddangos ar eich cyfrif yn y golofn ger eich derbyneb.

Os nad oes botwm lawrlwytho o fewn munudau i’ch archeb, gall hyn awgrymu fod problem gyda’r archeb a dylech gysylltu a ni ar [email protected]

Cynigir e-lyfrau ar fformat EPUB neu PDF i ddefnyddwyr Ffolio wrth iddynt ymddangos. Gallwch lawrlwytho yr e-lyfr i gyfrifiadur/ ffôn symudol/ gliniadur/ i-pad, ond nid oes modd ei lawrlwytho mewn fformat Kindle, sydd ddim ond ar gael drwy brynu drwy wefan Amazon.

Awgrymwn eich bod yn defnyddio Adobe Digital Editions 4 i ddarllen yr e-lyfrau hyn ar gyfrifiaduron sy’n rhedeg Windows a Mac OS X. Os nad ydych wedi llwytho Adobe Digital Editions 4 ar eich peiriant ewch at wefan Adobe Digital Editions.

Os ydych wedi archebu llyfr PDF, ond nid yw’n agor, mae’n bosibl fod y fersiwn o Adobe ar eich cyfrifiadur yn hen ac angen ei ddiweddaru.

Sut dwi’n lawrlwytho Adobe Digital Editions, neu diweddaru Adobe Reader?

Ewch at wefan Adobe Digital Editions a dewisiwch y fersiwn fwyaf addas i’r system rydym yn defnyddio.

Ym mha gyfrwng/fformat mae elyfr yn dod?

Pan rydych yn prynu’r llyfr, mae’n nodi yn glir y fformat. Ar y foment, cynigir fformatiau e-pub a pdf, ond mae’n bosibl y byddwn yn cynnig MOBI a llyfrau llafar yn y dyfodol

Sut ydw i’n lawrlwytho e lyfr i Kindle?

Yn gyffredinol, dyw Kindle ddim ond yn cefnogi llyfrau MOBI a geir eu gwerthu drwy Amazon.

Mae Kindle fel arfer yn gallu trosglwyddo ffeiliau pdf i ffeiliau y gellir eu darllen, ond rhaid i chi e-bostio’r llyfr i’ch cyfeiriad Kindle i’ch galluogi i wneud hyn.

Mae ffyrdd drwy ddefnyddio meddalwedd fel Calibre i chi allu darllen llyfr e-Pub ar eich Kindle, ond nid yw’r Ffolio yn argymell i chi wneud unrhyw beth sydd ddim yn gyson a’ch trwydded Kindle.

Sut ydw i’n lawrlwytho elyfr i Kobo?

  • Ewch i’r ffolder lle mae’ch e lyfr (y ffeil. Acsm) yn cael ei gadw.
  • Cliciwch ddwywaith ar y. ffeil acsm. Bydd y llyfr yn agor yn Adobe Digital Ediditons.
  • Cliciwch y Llyfrgell ar frig y sgrin.
  • Cliciwch Pob Eitem o dan y ddewislen Silffoedd Llyfrau.
  • Cliciwch ar eich llyfr newydd a’i lusgo i Kobo eReader a restrir ar yr ochr chwith o dan Dyfeisiau.

Sut ydw i’n lawrlwytho e lyfr i iPad/iPhone?

  • Ewch i’ch cyfrif Ffolio gan agor y llyfrau a brynwyd;
  • Ar y ddyfais rydych chi am ei ddefnyddio, cliciwch ar lawrlwytho;
  • Os oes gennych ddarllenydd wedi llwytho ar eich iPad/iPhone (fel arfer iTunes), dylai agor yn awtomatig, ond os nad yw’n agor, bydd angen i chi drosglwyddo’r llyfr o’r lle rydych chi wedi lawrlwytho’r ffeil i mewn i i-Tunes.

Sut ydw i’n lawrlwytho e lyfr i Tablet Android?

Y ffordd hawsaf yw i agor eich cyfrif Ffolio ar y tablet a lawrlwytho yn uniongyrchol.

Agorwch Google Play Apps ac ewch i’r llyfr rydych chi wedi ei lawrlwytho.

Os nad oes gennych gysylltiad a’r rhyngrwyd ar ei tablet, ni fydd modd i chi ei agor.

Ydw i’n gallu lawrlwytho e lyfr i’r cyfrifiadur/laptop?

Ydych. Yn yr amrywiol ffyrdd uchod, yr hyn sydd yn bwysig yw eich bod yn mynd i’ch cyfrif Ffolio ac yn sicrhau fod gennych raglen sydd yn gallu darllen e-lyfrau ar y ddyfais rydych yn defnyddio cyn ei lawrlwytho.

Sut mae’r e lyfr yn fy nghyrraedd i? Ydych chi’n anfon linc ata’ i?

Na. Rhaid i chi fynd i’ch cyfrif ar ffolio i lawrlwytho’r llyfr gyda’r ddyfais rydych cyn bwriadu ei ddefnyddio.  Dylai eich llyfr ymddangos ar eich cyfrif yn y golofn ger eich derbyneb.

Os nad oes botwm lawrlwytho o fewn munudau i’ch archeb, gall hyn awgrymu fod problem gyda’r archeb a dylech gysylltu a ni ar [email protected]

Wedi lawrlwytho fy elyfr – pa mor hir y mae ar fy nyfais?

Mae eich e-lyfr ar y ddyfais am byth. Chi yw perchennog y llyfr ac felly does dim cyfyngiadau o ran amser perchnogaeth.

Ydw i’n gallu safio fy e lyfr fel pdf?

Os yw’r llyfr mewn fformat pdf yn barod, wrth gwrs y gellir ei safio fel e-lyfr. Mae cyfarpar trosi ffeiliau e-pub i pdf (megis Zamzar neu PDF2Go), ond nid yw Ffolio yn gyfrifol am ansawdd y ffeil unwaith mae wedi cael ei drosi. Os oes opsiynau ar gael, ceisiwch brynu yn y fformat gywir fel nad oes angen i chi ei drosi.

Ydw i’n gallu darllen fy e-lyfr all-lein (offline)?

Ydych. Unwaith rydych chi wedi ei lawrlwytho, does dim angen cysylltiad i’r rhyngrwyd.

Ydw i’n gallu darllen fy e-lyfr ar lein heb orfod ei lawrlwytho?

Na. Mae’n rhaid i chi ei lawrlwytho o’ch cyfrif Ffolio i allu darllen yr e-lyfr.

Beth dwi’n gwneud os dwi’n cael trafferth lawrlwytho fy elyfr?

E-bostiwch ni trwy ddefnyddio’r ffurflen ymholiad o dan y ddolen Cysylltu neu anfonwch neges at: [email protected].