Tir na n-Og

Dyma brif wobrau llenyddiaeth i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Sefydlwyd Gwobrau Tir na n-Og gan y Cyngor Llyfrau yn 1976, ac fe’u rhoddir yn flynyddol i anrhydeddu gwaith gwreiddiol ffuglen neu ffeithiol gan awduron ac arlunwyr llyfrau plant yn y Gymraeg a’r Saesneg a gyhoeddwyd yn ystod y flwyddyn flaenorol. Eu nod yw cydnabod, dathlu a hyrwyddo llyfrau o safon aruchel i blant a phobl ifanc.

Cyflwynir tair gwobr sef categori cynradd Cymraeg, categori uwchradd Cymraeg a llyfr Saesneg â chefndir Cymreig dilys.  Noddir y gwobrau gan CILIP Cymru (Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth Cymru). Fel rheol, caiff y rhestr fer ei datgelu ym mis Mawrth gydag enwau’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi ym mis Mai.

GWOBRAU TIR NA N-OG 2023

CATEGORI CYMRAEG – CYNRADD

Dwi Eisiau bod yn Ddeinosor gan Luned Aaron a Huw Aaron (Atebol 2022) oedd yn fuddugol yn y categori Cymraeg oedran cynradd 2023. Dyma lyfr stori-a-llun sy’n llawn direidi a dychymyg. Mae’r prif gymeriad eisiau bod yn ddeinosor, neu’n “robot, roced, crocodeil neu ddraig” – i enwi dim ond rhai pethau ar ei restr! Yn hytrach na gweld y gwahaniaethau rhyngddo ef a’r creaduriaid eraill yn y llyfr, mae’n dod i sylweddoli ei fod yn unigryw yn ei ffordd ei hun – a does neb yn debyg iddo. A dyma, wrth gwrs, beth sy’n ei wneud yn arbennig. Mae hwn yn llyfr modern, doniol a lliwgar iawn sy’n trafod neges bwysig – rwyt ti’n ddigon da fel ag yr wyt ti

CATEGORI CYMRAEG – UWCHRADD

Enillydd y categori Cymraeg uwchradd yn 2023 oedd Manawydan Jones: Y Pair Dadeni gan Alun Davies (Y Lolfa 2022). Gan gychwyn gyda darganfod corff marw, mae darllenwyr yn sylweddoli’n fuan iawn bod y llyfr hwn yn un llawn dirgelwch. Yna, rydym yn cwrdd â bachgen ifanc o’r enw Manawydan Jones sy’n wahanol i’r plant eraill mae’n eu hadnabod yn yr ysgol – ond dydy hynny ddim yn beth drwg. Dyna beth sy’n ei wneud e’n arbennig – yn ogystal â’r ffaith ei fod yn perthyn i Manawydan fab Llŷr o’r Mabinogi. A’r sylweddoliad hwn yw dechrau’r antur gyffrous.

Ond nid llyfr antur ffantasïol yn unig yw Manawydan Jones – mae hi hefyd yn stori deimladwy am deulu, cyfeillgarwch, hunaniaeth a pherthyn. Mae’n cyflwyno cymeriadau dewr, cryf a chofiadwy sy’n pwysleisio’r neges bwysig o ‘ddilyn eich llwybr eich hun’. Dyma nofel gyffrous sy’n croesi’r ffin rhwng y byd go iawn a’r byd hudol: dehongliad modern a ffres o hen chwedlau’r Mabinogi sy’n eu cyflwyno i genhedlaeth newydd o ddarllenwyr.

CATEGORI SAESNEG

The Drowned Woods gan Emily Lloyd-Jones (Hodden & Stoughton, 2022) – stori ffantasi llawn cyffro, wedi ei gosod mewn cyfnod pan oedd teyrnasoedd Cymru yn gyforiog o hud a lledrith a gwrthdaro – ddaeth i’r brig yng nghategori Saesneg Gwobrau Tir na n-Og 2023 ar gyfer llenyddiaeth plant a phobl ifanc.

CATEGORI NEWYDD 2023: DEWIS Y DARLLENWYR

Eleni, cyflwynodd Cyngor Llyfrau Cymru elfen newydd i’r gwobrau, sef Dewis y Darllenwyr – tlws arbennig sy’n cael ei ddyfarnu gan blant a phobl ifanc sy’n cymryd rhan yng Nghynllun Cysgodi Tir na n-Og. Yr enillwyr yn y tri chategori oedd:

CATEGORI CYMRAEG – CYNRADD

Enwogion o Fri: Nye – Bywyd Angerddol Aneurin Bevan gan Manon Steffan Ros, darluniwyd gan Valériane Leblond (Llyfrau Broga)

CATEGORI CYMRAEG – UWCHRADD

Powell gan Manon Steffan Ros (Y Lolfa)

CATEGORI SAESNEG

The Mab gan awduron amrywiol, golygwyd gan Eloise Williams a Matt Brown, darluniwyd gan Max Low (Unbound)

GWOBRAU TIR NA N-OG 2022

CATEGORI CYMRAEG – CYNRADD

Gwag y Nos gan Sioned Wyn Roberts  (Atebol 2021) oedd yn fuddugol yn y categori Cymraeg oedran cynradd 2022. Dyma nofel sy’n dod â’r cyfnod Fictoraidd a byd creulon y wyrcws yn fyw trwy anturiaethau Magi, rebel a phrif gymeriad hoffus a direidus y stori. Dilynwn Magi wrth iddi fynd o wyrcws Gwag y Nos i Blas Aberhiraeth, gan gwrdd â chymeriadau cofiadwy ar hyd y ffordd fel Mrs Rowlands, Nyrs Jenat a Cwc. Wrth ddilyn sawl tro annisgwyl yn y stori, rydyn ni a Magi eisiau gwybod yr ateb i un cwestiwn – beth yw cyfrinach dywyll Gwag y Nos?

CATEGORI CYMRAEG – UWCHRADD

Cyfres o bum llyfr yw enillydd y categori Cymraeg uwchradd – Y Pump. Mae llyfrau amrywiol Cat, Tami, Aniq, Tim a Robyn wedi eu golygu gan Elgan Rhys.

Mae Y Pump yn dilyn criw o ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Llwyd, wrth iddynt ddarganfod y pŵer sydd gan eu harallrwydd pan maen nhw’n dod at ei gilydd fel cymuned. Cawn ein tywys gan safbwyntiau unigryw Tim, Tami, Aniq, Robyn a Cat gan ddod i adnabod realiti cymhleth bod yn berson ifanc ar yr ymylon heddiw. Drwy gydweithio â’r golygydd Elgan Rhys, mae pum ysgrifennwr ifanc wedi gweithio ar y cyd ag awduron mwy profiadol i greu’r gyfres uchelgeisiol, arbrofol, bwerus yma.

Teitlau ac awduron y pum cyfrol unigol yw Tim (gan Elgan Rhys a Tomos Jones), Tami (gan Mared Roberts a Ceri-Ann Gatehouse), Aniq (gan Marged Elin Wiliam a Mahum Umer), Robyn (gan Iestyn Tyne a Leo Drayton) a Cat (gan Megan Angharad Hunter a Maisie Awen).

CATEGORI SAESNEG

The Valley of the Lost Secrets gan Lesley Parr (Bloomsbury, 2021) – nofel dwymgalon wedi’i lleoli yng nghymoedd de Cymru – ddaeth i’r brig yng nghategori Saesneg Gwobrau Tir na n-Og 2022 ar gyfer llenyddiaeth plant a phobl ifanc.

GWOBRAU TIR NA N-OG 2021

Y tri llyfr ddaeth i’r brig yng Ngwobrau Tir na n-Og 2021 oedd Sw Sara Mai gan Casia Wiliam (Y Lolfa), #helynt gan Rebecca Roberts (Gwasg Carreg Gwlach) a The Short Knife gan Elen Caldecott (Andersen Press).

CATEGORI CYMRAEG – CYNRADD

Sw Sara Mai gan Casia Wiliam (Y Lolfa, 2020) oedd yn fuddugol yn y categori Cymraeg oedran cynradd yn 2021. Stori gyfoes yw hon am ferch naw oed o’r enw Sara Mai sy’n byw yn sw ei rhieni ac sy’n ei chael hi’n haws i ddeall ymddygiad creaduriaid rhyfeddol y lle nag ymddygiad merched eraill ei dosbarth ysgol. 

CATEGORI CYMRAEG – UWCHRADD

Enillydd y categori Cymraeg uwchradd yn 2021 oedd #helynt gan Rebecca Roberts (Gwasg Carreg Gwalch, 2020). Mae’r nofel yn adrodd stori merch yn ei harddegau o’r Rhyl a’r hyn sydd yn digwydd iddi ar ôl colli’r bws i’r ysgol un bore – digwyddiad digon cyffredin ond un sydd yn newid cwrs ei bywyd. Mwy…

CATEGORI SAESNEG

The Short Knife gan Elen Caldecott (Andersen Press, 2020) – nofel bwerus a chyffrous i bobl ifanc wedi’i gosod yn yr Oesoedd Canol cynnar – ddaeth i’r brig yng nghategori Saesneg Gwobrau Tir na n-Og 2021 ar gyfer llenyddiaeth plant a phobl ifanc

GWOBRAU TIR NA N-OG 2020

Llyfrau’n ymdrin â rhai o bynciau mawr y dydd a ddaeth i’r brig yng Ngwobrau Tir na n-Og 2020 am lenyddiaeth plant a phobl ifanc yn Gymraeg.

Pobol Drws Nesaf gan Manon Steffan Ros a’r darlunydd Jac Jones oedd yn fuddugol yn y categori Cymraeg oedran cynradd. Llyfr llun a stori ar gyfer plant 3–7 oed yw hwn, yn ein hannog i barchu pawb ac i beidio â beirniadu rhywun sy’n edrych ac yn ymddwyn yn wahanol i ni.

Enillydd y categori Cymraeg uwchradd oedd Byw yn fy Nghroen, a olygwyd gan Sioned Erin Hughes. Casgliad yw’r llyfr o brofiadau dirdynnol deuddeg o bobl ifanc sydd wedi gorfod brwydro gyda salwch a chyflyrau iechyd hirdymor. Mae’r cyfranwyr i gyd yn bobl ifanc rhwng 10 a 26 oed, sy’n trafod afiechydon meddyliol a chorfforol fel cancr, epilepsi, clefyd Crohn’s, spina bifida, nam ar y golwg, OCD, iselder a gorbryder.

Nofel Storm Hound gan Clare Fayers a gipiodd y brif wobr yn y categori cyfrwng Saesneg, stori antur ffantasïol sy’n cyfuno chwedloniaeth Nordig a Chymreig.

 

CYNLLUN CYSGODI GWOBRAU TIR NA N-OG

Dyma gynllun unigryw i ysgolion a llyfrgelloedd i godi ymwybyddiaeth o deitlau’r rhestr fer  a chynnig cyfle i fwynhau darllen a thrafod y llyfrau.

Gall ddosbarthiadau neu grwpiau darllen fod yn feirniaid answyddogol a dewis enillydd o blith y rhestr fer gan ddefnyddio pecyn adnoddau arbennig a gynlluniwyd i gefnogi’r cynllun.

I gymryd rhan yn y Cynllun Cysgodi, cysylltwch â [email protected].