Dwi'n casau Robat Wyllt. Bron iawn gymaint ag ydw i'n casau fy hun.Mwrddrwg ydy Twm. Dwyn. Twyllo. Bwlio. Mae o’n giamstar ar y cyfan. Ond mae rhywbeth ar goll, mae gwacter yn ei fywyd a does ganddo ddim syniad pam.
Un noson dywyll, pan mae Twm y Lleidr wrth ei waith, daw wyneb yn wyneb â’i ffawd, a darganfod gwirionedd sydd mor ysgytwol, mae’n newid cwrs ei fywyd am byth.