Y canwr o Aberteifi sy'n agor ei galon am ei frwydr ag alcoholiaeth mewn modd cignoeth a gonest. Trafodir hefyd ei gyfnod yn brif leisydd y band Jess a'i ddeng mlynedd yn gerddor proffesiynol yn yr Eidal, ynghyd â'i hanesion yn cystadlu ym myd peryglus rasio ceffylau pwynt i bwynt ac yn gyflwynydd teledu.
Hunangofiant y cerddor, y cyflwynydd a’r cymeriad Brychan Llŷr. Yn fab i Dic Jones, mae Brychan yn un o gymeriadau mwya lliwgar ardal Aberteifi.
Daeth i amlygrwydd chwarter canrif yn ôl fel prif leisydd y band Jess. Ers hynny, mae wedi bod yn crwydro Ewrop, yn gyflwynydd teledu, yn gweithio ym myd ceffylau ac yn adeiladwr.
Bu hefyd trwy sawl argyfwng personol a bu bron marw yn 2011 oherwydd ei alcoholiaeth. Bellach mae wedi dod dros ei broblemau ac wedi ailffurfio’r band Jess, sy’n dathlu 25 mlynedd ers ei sefydlu yn 2013.
~Cyhoeddwr: Y Lolfa
Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan yma, rydych yn rhoi caniatâd i gwcis gael eu defnyddio. I gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch eu analluogi, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd a Cwcis.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.