{"title":"Gwerthwyr Gorau Oedolion Tachwedd 2025","description":"","products":[{"product_id":"9781800997677","title":"Hiwmor C'mon Midffîld!","description":"Mae'r gyfrol arbennig hon yn cynnig 'geid syml i hiwmor haenog un o gyfresi teledu mwyaf poblogaidd y Gymraeg', C'mon Midffîld! Ceir golwg fanwl ar ffraethineb y sgriptio, dywediadau cofiadwy (a rhai mwy cynnil) y cymeriadau, a dadansoddiadau\/damcaniaethau tafod-yn-y-boch o olygfeydd a phenodau eiconig. \"Dowch 'laen Bryncoch!!\"","brand":"Caio Iwan","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":51381615034681,"sku":"9781800997677","price":6.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0914\/7813\/1001\/files\/9781800997677_9dcc7459-48d6-472c-8221-88732474af97.jpg?v=1770799187"},{"product_id":"9781800997691","title":"Y Mabinogion","description":"Chwedlau'r Mabinogion yw un o brif ogoniannau ein llenyddiaeth ni fel Cymry. Yn y gyfrol hon ceir diweddariad o'r un chwedl ar ddeg gan Dafydd a Rhiannon Ifans, ynghyd â rhagymadrodd manwl gan Brinley E. Roberts, yn trafod arwyddocâd y chwedlau a hanes eu trosglwyddo dros y canrifoedd.","brand":"Dafydd Ifans","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":51381614379321,"sku":"9781800997691","price":12.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0914\/7813\/1001\/files\/9781800997691_6b71764c-a71b-4349-a9f5-a0bfad6324e2.jpg?v=1770799187"},{"product_id":"9781800997585","title":"Dal i Fod yn Fi","description":"Ebrill 2023 roedd y cyflwynydd teledu Mari Grug yn eistedd ar y soffa gyda'i gŵr, Gareth, pan ffeindiodd hi lwmp yn ei bron. Erbyn Mai roedd wedi derbyn y newyddion gwaethaf posib - deiagnosis o ganser y fron oedd wedi lledu i'r nodau lymff a'r afu. Mae'r gyfrol hon yn dweud stori ddirdynnol, llawn dewrder y fam i dri. Mewn geiriau a lluniau personol ohoni hi a'r teulu down i nabod y Mari go iawn.","brand":"Mari Grug","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":51381614608697,"sku":"9781800997585","price":11.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0914\/7813\/1001\/files\/9781800997585_59506032-7079-4460-a7f5-80a06a1eefdb.jpg?v=1770799185"},{"product_id":"9781800997615","title":"Yr Ail Briodas","description":"Nofel lawn hiwmor gan frenhines nofelau poblogaidd, Marlyn Samuel.\nY noson cyn y briodas yn Rhodes, mae Carys a John Gareth yn cael eu deffro gan larwm yn dân. Rhaid i bawb adael yr ardal oherwydd tanau cyfagos. Mae Carys yn methu credu na fydd y briodas hon yn digwydd, fel yr un yn Sorrento. Ond mae Thelma, ei mam, yn ei helfen pan mae'n dod ar draws hen gariad iddi...","brand":"Marlyn Samuel","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":51381615690041,"sku":"9781800997615","price":9.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0914\/7813\/1001\/files\/9781800997615_3be2567c-f9bd-439e-8350-9967cf67676e.jpg?v=1770799186"},{"product_id":"9781800997578","title":"Bachu Cyfle","description":"Cyfrol ddirdynnol yn dilyn bywyd Ifan Phillips - chwaraewr rygbi poblogaidd a chwaraeodd dros 40 o weithiau i'r Gweilch a gollodd ei goes mewn damwain beic modur erchyll.","brand":"Ifan Phillips","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":51381615132985,"sku":"9781800997578","price":11.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0914\/7813\/1001\/files\/9781800997578_894710ef-1b65-4ccb-88c5-5fa7b742303c.jpg?v=1770799185"},{"product_id":"9781800997646","title":"60 Rhywbeth","description":"Nofel gyda digon o hiwmor gan awdur sy'n enw cyfarwydd ym myd comedi teledu yn y Deyrnas Unedig. Aeth dros ddegawd heibio ers i ni gwrdd â Delyth, Anwen a Nia yn Dal i Fynd. Nawr maen nhw wedi cyrraedd eu chwedegau. Dy'n nhw ddim callach, cofwch, er bod eu bywydau wedi gweld newid mawr. Ond sut mae byw bywyd fel menyw hŷn? Oes 'na reolau? Ac yn fwy pwysig - sut mae rhywun yn mwynhau?","brand":"Sioned Wiliam","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":51381615296825,"sku":"9781800997646","price":11.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0914\/7813\/1001\/files\/9781800997646_b53c39af-811f-416c-b7d0-6d0cff66ce11.jpg?v=1770799186"},{"product_id":"9781835390184","title":"Stori'r Iaith","description":"Cyfrol ddeniadol llawn lluniau sy'n adrodd Stori'r Iaith Gymraeg o'i dechreuadau hyd heddiw yng nghwmni academyddion a wynebau cyfarwydd.","brand":"Amrywiol","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":51381617623353,"sku":"9781835390184","price":24.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0914\/7813\/1001\/files\/9781835390184_51520f05-5f86-454c-b52e-0c22874fef6e.jpg?v=1770799210"},{"product_id":"9781845279738","title":"Dan Ormes","description":"Mae'r ditectif Jeff Evans yn ceisio addasu i fod yn dad i ddau o bobl ifanc yn eu harddegau, a'r heriau sy'n gysylltiedig â hynny. Pan mae Twm, ei fab, yn dechrau ymwneud â bechgyn hŷn mae ei ymddygiad yn newid ... pam hynny? A all Meira, gwraig Jeff, neu Nansi'r Nos, daflu goleuni ar y mater?","brand":"John Alwyn Griffiths","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":51381620048185,"sku":"9781845279738","price":9.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0914\/7813\/1001\/files\/9781845279738_513d8f5c-8e9f-4155-9d43-ff0e15f0535f.jpg?v=1770799225"},{"product_id":"9781911584988","title":"Trysorau'r Nadolig","description":"Dewch i ymgolli yn hud y Nadolig. Yn y flodeugerdd hon mae 20 bardd yn rhannu eu hatgofion o'r Ŵyl ac mae gwaith celf hudolus Karl James Mountford yn coroni'r cyfan. Dyma gist gyforiog y byddwch yn ei hagor droeon i fwynhau'r trysorau arbennig sydd ynddi.","brand":"Barddas","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":51381625651513,"sku":"9781911584988","price":12.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0914\/7813\/1001\/files\/9781911584988_55fbdade-2a4b-4889-87c7-0bf527aec614.jpg?v=1770799250"},{"product_id":"9781835390238","title":"Ni'n Sgwennu Nawr","description":"Casgliad o waith creadigol aelodau Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru. Cafodd y gwaith ei ysbrydoli gan gyfres o weithdai ysgrifennu creadigol gyda Bethan Gwanas ac Anni Llŷn.","brand":"Amrywiol","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":51384089215289,"sku":"9781835390238","price":9.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0914\/7813\/1001\/files\/9781835390238.jpg?v=1770799170"}],"url":"https:\/\/www.ffolio.cymru\/collections\/gwerthwyr-gorau-oedolion-2025.oembed","provider":"ffolio.cymru","version":"1.0","type":"link"}