{"product_id":"9780955136627","title":"Llywelyn Fychan: Ysgol yr Ynfydion","description":"Mae Llywelyn Fychan yn grwtyn bach â dychymyg disglair, sydd wrth ei fodd yn byw yn y wlad ar gwr y goedwig. Bob dydd mae’n cerdded i’r ysgol yn y dre gerllaw, lle, bob yn un, mae ei ffrindiau i gyd yn troi’n od – eu llygaid yn \nddifynegiant a’u cof yn gwbwl wag. Tybed ai Miss Eirlys Rhoswen, y ddraig o brifathrawes, sydd ar fai, yn cynnal rhyw arbrofion ar ei disgyblion er mwyn iddyn nhw fihafio’n well yn y dosbarth? Neu oes gan y tri disgybl newydd – Llofan, Morgegog, a Cacmwri – rywbeth i’w wneud â’r peth? Yn sicr mae agwedd y tri yn ddigon erchyll, ac mae rhywbeth o’i le o ran eu pryd a’u gwedd hefyd. Mae Llywelyn yn benderfynol o fynd i wraidd y mater… ac mae ei waith ditectif yn agor y llen ar antur hunllefus yn y goedwig dywyll, lle mae diogelwch ei ffrindiau (a phawb arall yn y dre) yn y fantol. Mae Llywelyn Fychan yn arwr o blentyn sy’n edrych ar y byd o ogwydd plentyn, ac nid yn hen ben oedolyn wedi ei osod ar ysgwyddau ifanc. Antur o stori stribed i blant 8+, addasiad o'r Ffrangeg gwreiddiol gan David de Thuin o wlad Belg.","brand":"David De Thuin","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":51384081285433,"sku":"9780955136627","price":6.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0914\/7813\/1001\/files\/9780955136627.jpg?v=1770799276","url":"https:\/\/www.ffolio.cymru\/products\/9780955136627","provider":"ffolio.cymru","version":"1.0","type":"link"}