{"product_id":"9780955136634","title":"Derwyddon, Y: Dirgelwch yr Ogam","description":"Dyma gyfrol gynta cyfres gothig iasoer wedi ei lleoli yn Oes y Seintiau yn y 5ed ganrif. Mae cynnwrf ar draws tiriogaethau’r Brython, gydag Ymerodraeth Rhufain yn gwanychu a gwrthdaro rhwng pobloedd a chredoau hen a newydd. Mae gorthrwm yr Eingl-Saeson tua’r dwyrain yn sbarduno nifer o’r Brythoniaid i sefydlu gwladfa newydd Llydaw yn Armorica yng ngwlad Gâl. Yn cyrraedd yn eu sgil mae arweinwyr ysbrydol yr Eglwys Geltaidd – y mynachod – a’r grefydd newydd yn darogan tranc yr hen ffydd oedd yn gweld einioes a bywyd yn y coed a natur. Ond erys yr hen draddodiadau yn ddiysgog yn erbyn y newydd, a gyda hynny mae Gwynlan, Derwydd ola Llydaw, a’i ddisgybl Taran yn cael eu hunain yng nghanol ymgiprys milain yn erbyn mynachod yr Eglwys. Daw cyhuddiadau o lofrudiaeth, aberth dynol a dewiniaeth o bob cwr, ond mae’r hen dduwiau wrth law i gynorthwyo’r cyfiawn. Ar gyfer pobol yn eu harddegau ac oedolion,","brand":"Jean-Luc Istin","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":51694958379321,"sku":"9780955136634","price":6.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0914\/7813\/1001\/files\/9780955136634.jpg?v=1770799310","url":"https:\/\/www.ffolio.cymru\/products\/9780955136634","provider":"ffolio.cymru","version":"1.0","type":"link"}