{"product_id":"9780955136658","title":"Llio! Y Dyddiadur Bach","description":"Merch ifanc hoffus yn ei harddegau yw Llio. Mae’n byw gyda’i mam mewn fflat yn y ddinas, ac mae’r ddwy yn ffrindiau mawr. Ond mae ei mam â’i phen yn y cyfrifiadur drwy’r amser, neu’n chwarae gêmau fideo byth a hefyd, a byth yn cwrdd â neb o’r tu fâs. Pan ddaw cymydog newydd i fyw yn y fflat drws nesa, mae Llio yn bachu ar y cyfle i sicrhau bod gan ei mam ramant yn ei bywyd. A beth am Llio ei hun? Mae gyda hi ei llygaid ar fachgen ifanc hefyd... ond ych a fi! Mae e’n pigo’i drwyn!\n\nAwdur ac arlunydd Llio yw Julien Neel, a mae’r llyfr gwreiddiol yn Ffrangeg wedi ennill Gwobr Ieuenctid Gwyl Straeon Stribed Angoulême yn 2005. Mae’r stori yn un rhamantus – i ferched yn bennaf – ac yn cyflwyno anwaladrwydd bywyd beunyddiol merch yn ei harddegau mewn modd difyr a chelfydd.","brand":"Julien Neel","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":51694958674233,"sku":"9780955136658","price":6.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0914\/7813\/1001\/files\/9780955136658.jpg?v=1770799311","url":"https:\/\/www.ffolio.cymru\/products\/9780955136658","provider":"ffolio.cymru","version":"1.0","type":"link"}