{"product_id":"9780955136672","title":"Triawd Amser, Y: Congo","description":"Congo yw ail lyfr cyfres Y Triawd Amser sy’n gweld Gwion, Garmon a Gwydion yng nghanol Affrica ym 1924. Gan deithio gyda mintai o dirfesurwyr, mae’r siwrne yn mynd o chwith o’r cychwyn cyntaf wrth i Gwydion syrthio. Mae cnoc gas i’w ben yn golygu ei fod e’n anghofio’n llwyr lle mae e, a’r rheswm dros fod yn y Congo. Pan ddaw ato’i hun, mae ei gymdeithion yn ei atgoffa eu bod wedi dod i’r jyngl i chwilio am stori dda i’w gwerthu i bapurau newydd ar draws y byd. \n\nA’r stori honno yw presenoldeb bwci-bo y jyngl, bwgan chwedlonol dyffryn N’gomo, cwm anghysbell sy’n bwydo dwr i afon fawr y Congo, a man lle nad yw’r brodorion yn fodlon mentro. Ai ffrwyth dychymyg y brodorion yw’r bwci, neu oes ’na lawer mwy i’r ubain a’r crochlefain erchydus sy’n treiddio o fieri dyfnaf Affrica? Gan rwyfo ar hyd afon N’gomo ac ymgiprys â hipos anferth, mosgitos sydd am waed pawb, a rhai o’r crocodeils mwya dan haul, mae’r ateb yn dod i’r fei – ac mae rhywbeth enfawr o’i le.","brand":"RUFLEDT Hubertus","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":51694958870841,"sku":"9780955136672","price":6.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0914\/7813\/1001\/files\/9780955136672.jpg?v=1770799311","url":"https:\/\/www.ffolio.cymru\/products\/9780955136672","provider":"ffolio.cymru","version":"1.0","type":"link"}