{"product_id":"9781783900541","title":"Mêts Maesllan: Taecwando","description":"Mae Taecwando yn rhan o'r gyfres Mêts Maesllan.   Dyma gyfres o lyfrau i gynorthwyo plant yng Nghyfnod Allweddol 2 sydd ag anawsterau dysgu penodol i feistroli lythrennedd yn y Gymraeg.  Mae'r gyfres yn canolbwyntio ar gamau seinegol a phatrymau iaith sy'n seiliedig ar 'O Gam i Gam' (Griffith, diweddarwyd gan Tomos a Jones, 2009) a'r Ffynhonnel Eirfaol' (Hughes, 1978).\u003cbr\u003e\nMae'r llyfrau yn lyfrau byr rhwng 16 a 28 tudalen i ddenu diddordeb y plant hynny sydd fel arfer yn amharod i ddarllen.  Ceir gwefan arbennig, www.canolfanpeniarth.org\/metsmaesllan ar gyfer y gyfres sy'n cynnwys gweithgareddau digidol a phapur i gyd-fynd â phob llyfr er mwyn cadarnhau'r eirfa a'r patrymau iaith a gyflwynir.\n\nMae'r llyfrau a'r gweithgareddau wedi eu graddoli ar 4 lefel er mwyn datblygu sgiliau darllen a phob un yn adeiladu ar y lefel flaenorol.  \n\nLefel 1 (glas) - 6 llyfr yn canolbwyntio ar eiriau cytsain\/llafariad\/cytsain;\nGeirfa Lefel 1:\nCytseiniaid unigol; llafariaid byr; llafariaid hir; geiriau c-ll-c yn bennaf; geiriau allweddol:a'i, a'r, ei, i'r, i'w, mynd, o'r, wedi, y, yn, yna, yr.\n\nTreigladau Lefel 1:\nAmbell dreiglad meddal p-b, t-d, c0g, b-f, m-f;\nambell dreiglad trwynol b-m, d-n;\n\nCystrawen Lefel 1:\nBrawddegau byr, un cymal;\nailadrodd cyson;\ncysylltair 'a'i gysylltu enwau e.e. Sam a Mim sillgoll 'r, 'n;\namser presennol y ferf - dyma, mae, ydw, ydy\/yw, dydw, dydy, oes;\ngorchmynion syml - cod, cer\n\n\nLefel 2 (gwyrdd) - 8 llyfr yn canolbwyntio ar lythrennau dwbl e.e. ff, ch, rh;\nGeirfa Lefel 2:\nGeiriau unsill gyda chytseiniaid clwm, e.e. dant, cefn, ofn;\nllythrennau dwbl - ch, dd, ll, th, rh, ng, ff, si, ph;\ngeiriauamlsillafog - deusill yn bennaf.\n\nTreigladau Lefel 2: \nTreiglad meddal;\ntreiglad trwynol;\ndechrau cyflwyno'r treigladau llaes.\n\nCystrawen Lefel 2:\nBrawddegau cytbwys - dau gyma;\ndefnydd o gysyllteiriau - a, ond;\npeth ailadrodd;\namser amherffaith y ferf.\n\nLefel 3 (oren) - 7 llyfr yn canolbwyntio ar gyfuniadau o gytseiniaid\nGeirfa Lefel 3:\nCytseiniaid Clwm;\ngeiriau amlsillafog, e.e. aderyn, anifieiliaid, anhygoel\n\nTreigladau Lefel 3:\nTreiglad Llaes\n\nCystrawen Lefel 3:\nBrawddegau hirach a chystrawen ychydig yn fwy cymhleth;\nailadrodd patrymau llai cyfarwydd;\nffurf gryno'r ferf yn yr amser gorffennol - 3ydd person yn bennaf, e.e. gwelodd, cafodd, clywodd;\namser dyfodol - byddaf, bydd.\n\nLefel 4 (coch) - 10 llyfr yn canolbwyntio ar gyfuniadau o lafariaid.\nGeirfa Lefel 4;\nGeirfa yn hytrach na thestun mwy heriol;\nllafariaid clwm, e.e. traed, dwylo, gwyn, Korea;\ndyblu 'n' a 'r';\ngeiriau lluosog gyda llafariaid clwm, e.e. ffeithiau, streipiau, mynyddoedd.\n\nTreigladau Lefel 4:\nTreiglo'n ehangach.\n\nCystrawen Lefel 4:\nBrawddegau mwy cymhleth;\ndefnydd helaeth o briod-ddulliau;\nffurf gryno'r ferf yn y gorffennol, e.e. gwelais, rhedais;\nffurf amhersonol gorffennol, e.e. darllenwyd, penderfynwyd;\ncymharu ansoddeiriau - y radd eithaf;\nrhedeg arddodiad.","brand":"Bethan Clement","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":51400486912313,"sku":"9781783900541","price":2.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0914\/7813\/1001\/files\/9781783900541.jpg?v=1770799209","url":"https:\/\/www.ffolio.cymru\/products\/9781783900541","provider":"ffolio.cymru","version":"1.0","type":"link"}