{"product_id":"9781784610111","title":"Rhyw Flodau Rhyfel","description":"Mae cyfrol ryddiaith gyntaf Llŷr Gwyn Lewis yn blethiad hyfryd o ffaith a ffuglen a’i chanolbwynt ar y cof a sut yr ydym ni’n coffáu. Trwy bytiau cofiannol, ysgrifau taith, ffotograffau, dyddiaduron, cofnodion a llenyddiaeth cawn gydgerdded â’r awdur rhwng cwsg ac effro ar hyd llwybrau’r cof a’r dychymyg.\n\nLlinyn arian y gyfrol yw sylweddoliad yr awdur i frawd ei daid gael ei ladd yn Syria yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Dilynwn ei deithiau yntau wrth iddo ddod i ddysgu rhagor am ei hen ewythr, a hynny yn erbyn cefndir y rhyfel cartref presennol yn Syria.","brand":"Llŷr Gwyn Lewis","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":51692374786361,"sku":"9781784610111","price":7.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0914\/7813\/1001\/files\/9781784610111.jpg?v=1770799161","url":"https:\/\/www.ffolio.cymru\/products\/9781784610111","provider":"ffolio.cymru","version":"1.0","type":"link"}