{"product_id":"9781871184365","title":"Trysorau Cudd - Darganfod Treftadaeth Cymru","description":"Yn Trysorau Cudd dangosir sut y mae treftadaeth Cymru wedi’i \nhailddarganfod a’i hail-ddehongli yn ystod canrif o ymchwil. Ceir ynddo gant o draethodau ac amryw byd o luniau, ynghyd â rhagymadrodd cryno i bob cyfnod, a’r cyfan yn darlunio safleoedd, adeiladau a \nhenebion sy’n cyfleu hanes Cymru o gyfnod cynhanes hyd heddiw. Bydd y llyfr hardd hwn yn gydymaith gwybodus i bawb sy’n ymddiddori ym mywyd a threftadaeth Cymru, boed hwy’n byw yng Nghymru, yn ymweld â hi neu’n ei hedmygu o bell.\n\n   Yn fuan ar ôl cyhoeddi Trysorau Cudd, fe ddarlledir ar BBC2 Cymru, o fis Tachwedd 2008 ymlaen, gyfres deledu mewn pum rhan gan y BBC o dan y teitl Hidden Histories. Bydd hi’n dilyn arbenigwyr y Comisiwn Brenhinol wrth iddynt ddadlennu dehongliadau newydd o dreftadaeth Cymru.","brand":"Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":51695512584505,"sku":"9781871184365","price":4.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0914\/7813\/1001\/files\/9781871184365.jpg?v=1770799221","url":"https:\/\/www.ffolio.cymru\/products\/9781871184365","provider":"ffolio.cymru","version":"1.0","type":"link"}