{"product_id":"9781906587086","title":"Cyfres Anturiaethau Tintin: Yr Ynys Ddu","description":"Mae Tintin a Milyn yn cerdded yn yr awyr iach pan ddont ar draws dau awyrenwr mewn trafferth… a dyna ble mae trafferthion ein harwyr yn dechrau. Tra bod y ddau dditectif Parry-Williams a Williams-Parry yn dilyn eu trwynau eu hunain, mae Tintin yn dilyn trwyn mwy dibynadwy Milyn ac yn mynd ar drywydd criw o ffugwyr arian rhyngwladol – yn eu plith, gwˆr a ddaw’n un o’i elynion pennaf, sef y meddyg Müller. Trwy ddianc â’i fywyd wedi iddo gael ei saethu ar gychwyn yr antur, daw sawl dihangfa i ran Tintin wrth iddo ddilyn y cliwiau a chael ei hun yn y pen draw ym mhellafoedd gogleddol a niwlog yr Alban, yng nghanol hen hanesion tywyll am y bwystfil mawr, a’ Bhèist Mhòr, sy’n trigo yn adfeilion castell a’ Chreag Dubh ar Yr Ynys Ddu. A thua’r ynys y mae Tintin a Milyn yn morio mewn cwch bach bregus i herio chwedl y bwystfil…","brand":"Hergé","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":51395285057849,"sku":"9781906587086","price":6.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0914\/7813\/1001\/files\/9781906587086.jpg?v=1770799350","url":"https:\/\/www.ffolio.cymru\/products\/9781906587086","provider":"ffolio.cymru","version":"1.0","type":"link"}