{"product_id":"9781906587093","title":"Cyfres Anturiaethau Tintin: Anialwch yr Aur Du","description":"Wrth ddychwelyd i’r Dwyrain Canol, mae Tintin yn glanio yng nghanol rhyfel tanllyd. Rhywsut rywffordd mae Tintin, Milyn, Parry-Williams a Williams-Parry yn aelodau o’r criw ar long y Speedol Star yn teithio tua’r dwyrain, ac yn cyrraedd porthladd Khemekho-Leone ym mrenhiniaeth Khemed. Cyfoeth y frenhiniaeth yw’r aur du – y meysydd olew islaw twyni’r anialwch – ond mae’n frwydr am oruchafiaeth rhwng yr emir Ben Kalish Ezab a’r shîc Pahra Bhlu, ill dau yn hawlio rheolaeth dros y wlad. A rhwng y ddau saif un dihiryn sy’n ceisio manteisio ar y sefyllfa i’w ddibenion ei hun – dihiryn y mae Tintin wedi dod ar ei draws eisoes – ac yn ei feddiant y mae fformiwla cemegol ag iddo ganlyniadau digon tanllyd. Diolch byth, mae’r fformiwla yn syrthio i ddwylo diogel Parry-Williams a Williams-Parry … ac wrth gael gwared ar un pen tost, dyma un arall yn ymddangos ynghanol y tân gwyllt ar ffurf y tywysog Abdallah, mab yr emir, a’i jôcs bach diddiwedd sy’n boen yn y pen ôl!","brand":"Hergé","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":51437825720633,"sku":"9781906587093","price":6.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0914\/7813\/1001\/files\/9781906587093.jpg?v=1770799173","url":"https:\/\/www.ffolio.cymru\/products\/9781906587093","provider":"ffolio.cymru","version":"1.0","type":"link"}