{"product_id":"9781906587116","title":"Druids: 1. The Ogham Sacrifice","description":"Dyma gyfrol gynta cyfres gothig iasoer wedi ei gosod yn Oes y Seintiau yn y 5ed ganrif. Mae cynnwrf ar draws tiriogaethau’r Brython, gydag Ymerodraeth Rhufain yn gwanychu a gwrthdaro rhwng pobloedd a chredoau hen a newydd. Mae gorthrwm yr Eingl-Saeson tua’r dwyrain yn sbrduno nifer o’r Brythoniaid i sefydlu gwladfa newydd Llydaw yn Armorica yng ngwlad Gâl. Yn cyrraedd yn eu sgil mae arweinwyr ysbrydol yr Eglwys Geltaidd – y mynachod – a’r grefydd newydd yn darogan tranc yr hen ffydd oedd yn gweld einioes a bywyd yn y coed a natur. Ond erys yr hen draddodiadau yn ddiysgog yn erbyn y newydd, a gyda hynny mae Gwynlan, Derwydd ola Llydaw, a’i ddisgybl Taran yn cael eu hunain yng nghanol ymgiprys milain yn erbyn mynachod yr Eglwys. Daw cyhuddiadau o lofrudiaeth, aberth dynol a dewiniaeth o bob cwr, ond mae’r hen dduwiau wrth law i gynorthwyo’r cyfiawn.","brand":"Jean-Luc Istin","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":51695513502009,"sku":"9781906587116","price":9.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0914\/7813\/1001\/files\/9781906587116.jpg?v=1770799232","url":"https:\/\/www.ffolio.cymru\/products\/9781906587116","provider":"ffolio.cymru","version":"1.0","type":"link"}