{"product_id":"9781906587123","title":"Derwyddon, Y: Gwayw'r Goruchaf","description":"Mae trydedd cyfrol cyfres Y Derwyddon yn cychwyn lle mae Cyfaredd Caer Is yn dod i ben. Llofruddiwyd y Brawd Tomos yng nghanol dinas Caer Is wrth iddo gyfieithu darn o lawysgrif sanctaidd sy’n nodi lle mae dau o Dlysau’r Brythoniaid wedi cael eu cuddio. Dan ddylanwad Diod y Duwiau gwnaeth Talwrch, pennaeth y Prydyn, ddatgelu lle dylai ei bobol gludo’r Tlysau hyn, sef y Pair Dadeni a roddai ddysg a bywyd yr eildro i ryfelwyr celain; a gwayw’r goruchaf Lleu, y waywffon hud â phum min pigfain a fyddai wastad yn taro’i nod. Gorchwyl y derwydd Gwynlan yw datrys y dirgelwch astrus hyn. Ond yn y cysgodion mae ciwed ddialgar Eglwys Rufain ar waith, ac yn ceisio  defnyddio cyfrinachau’r derwyddon a thanseilio enaid hen grefydd dinas Caer Is.","brand":"Jean-Luc Istin","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":51695513665849,"sku":"9781906587123","price":6.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0914\/7813\/1001\/files\/9781906587123.jpg?v=1770799232","url":"https:\/\/www.ffolio.cymru\/products\/9781906587123","provider":"ffolio.cymru","version":"1.0","type":"link"}