{"product_id":"9781906587154","title":"Lewsyn Lwcus: Yr Herwr Jesse James","description":"Yn driw i’w ach Cymreig, mae pen bandit y Gorllewin Gwyllt, Jesse James, am ddilyn esiampl ei arwr Twm Siôn Cati. Ond rywsut mae’r ddelfryd o ddwyn oddi ar y cyfoethog i helpu’r tlawd wedi mynd yn angof. Gan ddefnyddio dulliau cyfrwys, mae Jesse a’i gang yn gwagio banciau ac yn tynnu trenau oddi ar y cledrau i gael gafael ar yr aur ac arian. Dim ond Lewsyn Lwcus all ei stopio – ond tybed ddaw e i’r fei a dod â theyrnasiad gwylliaid y gorllewin i ben â llond casgen o dar a sachiad o blu?","brand":"Goscinny","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":51695513993529,"sku":"9781906587154","price":6.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0914\/7813\/1001\/files\/9781906587154.jpg?v=1770799233","url":"https:\/\/www.ffolio.cymru\/products\/9781906587154","provider":"ffolio.cymru","version":"1.0","type":"link"}