{"product_id":"9781906587208","title":"Derwyddon, Y: Cylch y Cedyrn","description":"Mae'r antur iasoer o Oes y Seintiau yn parhau, wrth i ymchwil Gwynlan i lofruddiaethau cïaidd mynachod yr Eglwys Geltaidd ei dywys dros y môr i Brydain – Ynys y Cedyrn. Mae dau o Drysorau’r Brythoniaid, Pair y Dadeni a Gwayw Lleu, yn allweddol i ymgais Eglwys Rufain i ddisodli hen ffydd y Brythoniaid. Dan fygythiad môr-ladron rheibus, daw Arthur a'i osgordd i gynorthwyo Gwynlan a'i gymdeithion. Gyda chymorth y bardd Myrddin caiff Gwynlan ei arwain harwain ar hyd trywydd diogel, o olwg y Saeson, i Gôr y Cewri yn nhiriogaeth llwyth y Dyrdrigiaid – y meini hynafol sy'n gwarchod rhan o'r gyfrinach y mae Gwynlan yn chwilio amdani. Yno caiff ddatguddiad pwysig sy’n sbarduno’r ymchwil ymhellach. Wrth chwilio am loches ar eu taith, daw’r teithwyr wyneb yn wyneb â bygythiad hudolus ond angheuol sy’n rhoi bywyd Taran yn y fantol. Un man yn unig all roi achubiaeth i’r llanc, man ymhell i ffwrdd yn nhiriogaeth yr Orddwy, ac mae eu hynt yn dwyn y teithwyr i fynachlog Deiniol ar lannau'r culfor sy'n rhannu'r tir mawr o ynys sanctaidd y Derwyddon — Môn.","brand":"Jean-Luc Istin","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":51695514321209,"sku":"9781906587208","price":6.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0914\/7813\/1001\/files\/9781906587208.jpg?v=1770799233","url":"https:\/\/www.ffolio.cymru\/products\/9781906587208","provider":"ffolio.cymru","version":"1.0","type":"link"}