{"product_id":"9781906587277","title":"Asterix yn y Gemau Olympaidd","description":"Wrth sylweddoli mai Rhufeiniaid ydyn nhw’n go iawn (diolch i Iwˆl  Cesar) – ac felly â’r hawl i gystadlu yng Ngemau Olympaidd y Groegiaid – mae Galiaid pentre Asterix, fel hapus dyrfa, yn troi am wlad Groeg i chwilio am glod a bri yn y campau. Gyda’r ddiod hud yn foddion i’w hatgyfnerthu, mae’r Galiaid yn sicr o’u siawns i ennill palmwydd lu. Ond pan ddaw sôn am y ddiod hud i glyw swyddogion y Gemau Olympaidd, buan y caiff y gwynt ei dynnu o hwyliau’r Galiaid – does gan y cystadleuwyr ddim hawl i ddefnyddio cyffuriau i wella’u perffomiad. Pwy felly fydd yn cyrraedd y brig yn y Gemau? Mae angen i Asterix a’i ffrindiau fod yn gyfrwys iawn wrth sicrhau nad yw eu gwrthwynebwyr yn twyllo, ac mae gan y derwydd Gwyddoniadix rysait i helpu hynny.","brand":"René Goscinny","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":51384094228793,"sku":"9781906587277","price":6.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0914\/7813\/1001\/files\/9781906587277.jpg?v=1770799216","url":"https:\/\/www.ffolio.cymru\/products\/9781906587277","provider":"ffolio.cymru","version":"1.0","type":"link"}