{"product_id":"9781906587420","title":"Asterix a'r Cryman Aur","description":"Mae cryman aur y derwydd Gwyddoniaidx yn angenrheidiol wrth gasglu'r planhigion sy’n mynd mewn i’r ddiod hud. Felly mae’r derwydd mewn picil pan mae ei gryman yn torri, a diogelwch y pentre dan fygythiad. Mae’n rhaid i Gwyddoniadix gael cryman aur newydd, a’r unig rai sydd o unrhyw safon yw’r rhai mae Torchillewix yn eu cynhyrchu yn ei weithdy yn Lwtetia bell. Dyma Asterix ac Obelix felly yn teithio i Lwtetia i brynu un o grymanau Torchillewix – ond mae yntau wedi diflannu oddi ar wyneb y ddaear. Wrth chwilio amdano, mae ein harwyr yn dod wyneb yn wyneb â gang sy’n masnachu crymanau ar y farchnad ddu, gang sydd â rhywun dylanwadol dros ben yn eu cadw rhag cyfiawnder, ac sy’n manteisio ar sgiliau Torchillewix er ei ddibenion ei hunan.","brand":"René Goscinny","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":51457347060025,"sku":"9781906587420","price":6.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0914\/7813\/1001\/files\/9781906587420.jpg?v=1770799296","url":"https:\/\/www.ffolio.cymru\/products\/9781906587420","provider":"ffolio.cymru","version":"1.0","type":"link"}