{"product_id":"9781906587581","title":"Llywelyn Fychan: Dirgelwch Rheinallt Gwynedd","description":"Mae Llywelyn Fychan yn fachgen sy’n byw bywyd llawn anturiaethau rhyfeddol – a rheiny’n aml yn amharu ar ei waith yn yr ysgol. Wrth dwrio drwy’r llyfrgell mae e’n dod o hyd i lyfr a sgrifennwyd gan brifathro cyntaf yr ysgol, Mr Rheinallt Gwynedd. Tua diwedd y gyfrol mae Mr Gwynedd yn sôn am gelc o drysor y byddai neb ond disgybl peniog (un digon dawnus i ddatrys pos arbennig) yn gallu dod o hyd iddo. Mae hyn yn ddigon i sbarduno Llywelyn i chwilio am y trysor – nid er mwyn cadw’r trysor iddo fe ei hunan, ond er mwyn cadw’r ysgol ar agor… mae ’na fygythiad i ddyfodol yr ysgol oherwydd prinder arian, a does neb am weld yr ysgol yn cau!","brand":"David De Thuin","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":51384094916921,"sku":"9781906587581","price":6.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0914\/7813\/1001\/files\/9781906587581.jpg?v=1770799217","url":"https:\/\/www.ffolio.cymru\/products\/9781906587581","provider":"ffolio.cymru","version":"1.0","type":"link"}