Cwestiynau Cyffredinol

Chwilio am Gwales.com?

Beth sydd wedi digwydd i wefan Gwales.com?

Mae gwerthu llyfrau ar-lein wedi symud o Gwales.com i ffolio.cymru i greu siop un-stop ar gyfer llyfrau o Gymru ym mhob fformat. Gallwch bellach brynu llyfrau, e-lyfrau a llyfrau llafar o ffolio.cymru. Gallwch gefnogi siopau llyfrau annibynnol gyda’ch archeb.

Cyngor Llyfrau Cymru sy’n berchen ac yn rheoli Gwales.com a ffolio.cymru. Caewyd Gwales.com ar 2ail Mawrth 2026, a cheir cwsmeriaid eu hail-gyfeirio at ffolio.cymru.

Nid yw hwn yn effeithio ar unrhyw archebion Gwales.com hyd at 2 Mawrth 2026.

Roeddwn yn gwsmer Gwales.com. A fydd fy nghyfrif yn cael ei drosglwyddo i ffolio.cymru?

Na, ni fydd manylion eich cyfrif Gwales yn cael ei drosglwyddo i ffolio.cymru.
Bydd angen i chi greu cyfrif ffolio newydd gan fod hon yn wefan newydd.

Roeddwn i’n arfer derbyn e-byst yn rheoliadd gan Gwales.com am lyfrau o Gymru. Sut alla i dderbyn cynigion a newyddion am lyfrau o Gymru?

Gallwch gofrestru am ein e-gylchlythyr ffolio a fydd yn mynd allan yn rheolaidd. Mae cylchlythyr Gwales wedi cael ei ddiddymu.

Eglurhad Mathau Fformat Digidol

Epub

E-lyfr ar ffurf epub. Bydd angen darllenydd epub arnoch. Mae sawl un gwahanol ar gael, ond rydym yn argymell Adobe Digital Editions.

PDF

E-lyfr ar fformat PDF. Bydd ar gael i'w lawrlwytho o'ch cyfrif.

MP3

Llyfr ar ffurf sain i'w wrando arno. Bydd angen ap Glassboxx er mwyn gallu gwrando ar lyfrau sain y wefan hon.

Archebion Printiedig

Oes modd gwario tocynnau llyfrau ar y wefan hon?

Dim ond mewn siopau llyfrau mae modd gwario tocynnau llyfrau. Dod o hyd i siop
lyfrau:
Siopau Llyfrau Cymru | Cyngor Llyfrau Cymru

Ydw i’n gallu blaen-archebu llyfrau cyn eu cyhoeddi?

Gallwch gofrestru eich e-bost i gael gwybod yn syth pan fydd y llyfrau wedi eu cyhoeddi, ond nid ydym eto yn cynnig archebu teitlau cyn y dyddiad cyhoeddi.

Sut ydwi’n gallu cefnogi fy siop lyfrau leol wrth osod fy archeb?

Gallwch ddewis siop lyfrau i'w chefnogi wrth dalu – dewiswch eich siop lyfrau o'r rhestr ddisgyn.

Ydych yn dosbarthu dramor?

Ydyn, rydym yn dosbarthu archebion dramor. Mae cost y cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.

Nodwch y gallai rhai gwledydd godi ffioedd tollau ychwanegol.

Pryd fyddaf yn derbyn fy llyfrau?

Caiff archebion Ffolio y DU (o dan 2kg) eu dosbarthu trwy wasanaeth Ail Ddosbarth y Post Brenhinol; dosberthir archebion mawr trwy wasanaeth cludo. Mae'r mwyafrif o barseli ail ddosbarth y post brenhinol yn cyrraedd o fewn 3-5 diwrnod gwaith, ond gall gymryd hyd at 14 diwrnod.

Beth dylwn i wneud os nad ydy fy archeb wedi cyrraedd?

Cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r ffurflen gyswllt neu e-bostio ffolio@llyfrau.cymru yn nodi’ch rhif archeb a byddwn ni’n gwirio i chi.

Archebion Elyfrau

Ble fedra i weld fy e-lyfr

Dylai eich llyfr fod yn ymddangos yn eich cyfrif o dan Eich E-lyfrau.

Os nad oes botwm lawrlwytho i'w weld ar y sgrin o fewn munudau wedi i chi archebu'r llyfr, gall hyn awgrymu fod problem gyda’r archeb a dylech gysylltu â ni ar ffolio@llyfrau.cymru

Cynigir e-lyfrau ar fformat EPUB neu PDF i ddefnyddwyr Ffolio wrth iddynt ymddangos. Gallwch lawrlwytho yr e-lyfr i gyfrifiadur/ ffôn symudol/gliniadur/ i-pad, ond nid oes modd ei lawrlwytho mewn fformat Kindle, sydd ddim ond ar gael i'w brynu o wefan Amazon.

Awgrymwn eich bod yn defnyddio Adobe Digital Editions 4 i ddarllen yr e-lyfrau hyn ar gyfrifiaduron sydd â systemau Windows a Mac OS X. Os nad ydych wedi llwytho Adobe Digital Editions 4 ar eich peiriant ewch at wefan Adobe Digital Editions.

Os ydych wedi archebu llyfr PDF, ond nid yw’n agor, mae’n bosibl fod y fersiwn o Adobe ar eich cyfrifiadur yn hen ac angen ei ddiweddaru.

Sut mae darllen fy e-lyfr

Mae angen darllenydd epub i agor e-lyfr Epub. Rydym yn argymell Adobe Digital Editions, ond mae yna lawer o apiau eraill ar gael o'r App Store.

Sut dwi’n lawrlwytho Adobe Digital Editions, neu diweddaru Adobe Reader?

Ewch at wefan Adobe Digital Editions a dewisiwch y fersiwn mwyaf addas i’r system rydym yn defnyddio.

Ym mha gyfrwng/fformat mae e-lyfr yn dod?

Wrth brynu llyfr, mae ei fformat yn cael ei nodi yn glir. Ar hyn o bryd, cynigir fformatiau e-pub a pdf.

Sut ydw i’n lawrlwytho e-lyfr i Kindle?

Yn gyffredinol, nid yw Kindle yn cefnogi llyfrau MOBI sy'n cael eu gwerthu drwy Amazon.

Mae Kindle fel arfer yn gallu trosglwyddo ffeiliau pdf i ffeiliau y gellir eu darllen, ond rhaid i chi e-bostio’r llyfr i’ch cyfeiriad Kindle i’ch galluogi i wneud hyn.

Trwy ddefnyddio meddalwedd fel Calibre, mae modd i chi ddarllen llyfr e-Pub ar eich Kindle, ond nid yw Ffolio yn argymell i chi wneud unrhyw beth sydd ddim yn cyd-fynd ag amodau trwydded eich Kindle.

Sut ydw i’n lawrlwytho e-lyfr i Kobo?

  • Ewch i’r ffolder lle mae eich e-lyfr (y ffeil Acsm) yn cael ei gadw.
  • Cliciwch ddwywaith ar y ffeil acsm. Bydd y llyfr yn agor yn Adobe Digital Editions.
  • Cliciwch y Llyfrgell ar frig y sgrin.
  • Cliciwch Pob Eitem o dan y ddewislen Silffoedd Llyfrau.
  • Cliciwch ar eich llyfr newydd a’i lusgo i Kobo eReader a restrir ar yr ochr chwith o dan Dyfeisiau.

Sut ydw i’n lawrlwytho e-lyfr i iPad/iPhone?

  • Ewch i’ch cyfrif Ffolio gan agor y llyfrau a brynwyd;
  • Ar y ddyfais rydych chi am ei defnyddio, cliciwch ar Lawrlwytho;
  • Os oes gennych ddarllenydd wedi ei lwytho ar eich iPad/iPhone (fel arfer iTunes), dylai agor yn awtomatig, ond os nad yw’n agor, bydd angen i chi drosglwyddo’r llyfr o’r lle rydych chi wedi lawrlwytho’r ffeil i i-Tunes.

Sut ydw i’n lawrlwytho e lyfr i Tablet Android?

Y ffordd hawsaf yw drwy agor eich cyfrif Ffolio ar y tablet a'i lawrlwytho yn uniongyrchol.
Agorwch Google Play Apps ac ewch i’r llyfr rydych chi wedi ei lawrlwytho.
Os nad oes gennych gysylltiad â’r rhyngrwyd ar ei tablet, ni fydd modd i chi ei agor.

Ydw i’n gallu lawrlwytho e-lyfr i’r cyfrifiadur/laptop?

Ydych. Yn yr amrywiol ffyrdd uchod, yr hyn sydd yn bwysig yw eich bod yn mynd i’ch cyfrif Ffolio ac yn sicrhau fod gennych raglen sydd yn gallu darllen e-lyfrau ar y ddyfais rydych yn ei defnyddio cyn ei lawrlwytho.

Sut mae’r e-lyfr yn fy nghyrraedd i? Ydych chi’n anfon linc ataf?

Na. Rhaid i chi fynd i’ch cyfrif ar ffolio i lawrlwytho’r llyfr gyda’r ddyfais rydych cyn bwriadu ei defnyddio. Dylai eich llyfr ymddangos ar eich cyfrif yn y golofn ger eich derbyneb.

Os nad oes botwm lawrlwytho i'w weld ar y sgrin o fewn munudau wedi i chi archebu'r llyfr, gall hyn awgrymu fod problem gyda’r archeb a dylech gysylltu â ni ar ffolio@llyfrau.cymru

Wedi lawrlwytho fy e-lyfr – pa mor hir y bydd ar gael ar fy nyfais?

Mae eich e-lyfr ar y ddyfais yn barhaol. Chi yw perchennog y llyfr ac felly does dim cyfyngiadau o ran y cyfnod rydych yn berchen arno.

Ydw i’n gallu safio fy e-lyfr fel pdf?

Os yw’r llyfr mewn fformat pdf yn barod, mae modd ei safio fel e-lyfr. Mae cyfarpar trosi ffeiliau e-pub i pdf (megis Zamzar neu PDF2Go) ar gael, ond nid yw Ffolio yn gyfrifol am ansawdd y ffeil wedi iddo gael ei drosi. Os oes opsiynau ar gael, ceisiwch brynu yn y fformat cywir fel nad oes angen i chi ei drosi.

Ydw i’n gallu darllen fy e-lyfr all-lein (offline)?

Ydych. Unwaith rydych chi wedi ei lawrlwytho, does dim angen cysylltiad â’r rhyngrwyd.

Ydw i’n gallu darllen fy e-lyfr ar lein heb orfod ei lawrlwytho?

Na. Mae’n rhaid i chi ei lawrlwytho o’ch cyfrif Ffolio i allu darllen yr e-lyfr.

Beth ddylwn ei wneud os ydw i'n cael trafferth lawrlwytho fy e-lyfr?

E-bostiwch ni trwy ddefnyddio’r ffurflen ymholiad o dan y ddolen Cysylltu neu anfonwch neges at: ffolio@llyfrau.cymru.

Archebion Llyfrau Sain

Sut ydw i'n cael mynediad i'n Llyfr Sain

Rydym yn gweithio gyda Glassboxx i rannu'r llyfr sain gyda chi. Lawrlwythwch yr ap a mewngofnodi yn defnyddio eich e-bost er mwyn gwrando ar eich llyfr sain.

Fedra i wrandio i'r llyfr sain heb orfod lawrlwytho ap Glassboxx?

Mae gan Glassboxx darllenydd ar-lein, ble mae modd mewngofnodi gyda'ch e-bost i wrando ar y llyfr sain. Fodd bynnag, dim ond drwy ap Glassboxx, neu ei ddarllenydd ar-lein, y mae modd gwrando ar eich llyfr sain.

Fedra i wrandio i fy llyfr sain all-lein (offline)?

Gallwch. Unwaith rydych wedi'i lawrlwytho, does dim angen cyswllt â'r we.

Beth ddylwn ei wneud os ydw i'n cael trafferth cael mynediad i'm llyfr sain?

E-bostiwch ni drwy'r ffurflen gysylltu "Cysylltu â ni" neu danfonwch e-bost at:
ffolio@llyfrau.cymru