Cynllun Cefnogi Siopau

Mae siopau llyfrau annibynnol lleol yn gwneud cyfraniad hollbwysig i’n Stryd Fawr ac mae modd eu cefnogi hyd yn oed pan fyddwch yn prynu ar-lein drwy ffolio.cymru. Y cyfan sydd angen ei wneud yw dewis siop o’r ddewislen yn y fasged cyn mynd i'r man talu a bydd y siop honno’n derbyn comisiwn gan y Cyngor Llyfrau. Mae’n ffordd hwylus o helpu’r diwydiant llyfrau yng Nghymru a sicrhau presenoldeb i lyfrau o Gymru ar y Stryd Fawr.

Mae 56 siop lyfrau annibynnol yn rhan o'r Cynllun hyd yma.