Neidio i wybodaeth am y cynnyrch
1 o 1

Llywelyn Fychan: Ysgol yr Ynfydion

Llywelyn Fychan: Ysgol yr Ynfydion

Pris arferol £6.99 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £6.99 GBP
Ar Werth Ddim ar gael ar hyn o bryd
Trethi wedi'u cynnwys.

Eglurhad mathau fformat

Nifer
Mae Llywelyn Fychan yn grwtyn bach â dychymyg disglair, sydd wrth ei fodd yn byw yn y wlad ar gwr y goedwig. Bob dydd mae’n cerdded i’r ysgol yn y dre gerllaw, lle, bob yn un, mae ei ffrindiau i gyd yn troi’n od – eu llygaid yn ddifynegiant a’u cof yn gwbwl wag. Tybed ai Miss Eirlys Rhoswen, y ddraig o brifathrawes, sydd ar fai, yn cynnal rhyw arbrofion ar ei disgyblion er mwyn iddyn nhw fihafio’n well yn y dosbarth? Neu oes gan y tri disgybl newydd – Llofan, Morgegog, a Cacmwri – rywbeth i’w wneud â’r peth? Yn sicr mae agwedd y tri yn ddigon erchyll, ac mae rhywbeth o’i le o ran eu pryd a’u gwedd hefyd. Mae Llywelyn yn benderfynol o fynd i wraidd y mater… ac mae ei waith ditectif yn agor y llen ar antur hunllefus yn y goedwig dywyll, lle mae diogelwch ei ffrindiau (a phawb arall yn y dre) yn y fantol. Mae Llywelyn Fychan yn arwr o blentyn sy’n edrych ar y byd o ogwydd plentyn, ac nid yn hen ben oedolyn wedi ei osod ar ysgwyddau ifanc. Antur o stori stribed i blant 8+, addasiad o'r Ffrangeg gwreiddiol gan David de Thuin o wlad Belg.
Gweld manylion llawn