Neidio i wybodaeth am y cynnyrch
1 o 1

Llio! Y Dyddiadur Bach

Llio! Y Dyddiadur Bach

Pris arferol £6.99 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £6.99 GBP
Ar Werth Ddim ar gael ar hyn o bryd
Trethi wedi'u cynnwys.

Eglurhad mathau fformat

Nifer
Merch ifanc hoffus yn ei harddegau yw Llio. Mae’n byw gyda’i mam mewn fflat yn y ddinas, ac mae’r ddwy yn ffrindiau mawr. Ond mae ei mam â’i phen yn y cyfrifiadur drwy’r amser, neu’n chwarae gêmau fideo byth a hefyd, a byth yn cwrdd â neb o’r tu fâs. Pan ddaw cymydog newydd i fyw yn y fflat drws nesa, mae Llio yn bachu ar y cyfle i sicrhau bod gan ei mam ramant yn ei bywyd. A beth am Llio ei hun? Mae gyda hi ei llygaid ar fachgen ifanc hefyd... ond ych a fi! Mae e’n pigo’i drwyn! Awdur ac arlunydd Llio yw Julien Neel, a mae’r llyfr gwreiddiol yn Ffrangeg wedi ennill Gwobr Ieuenctid Gwyl Straeon Stribed Angoulême yn 2005. Mae’r stori yn un rhamantus – i ferched yn bennaf – ac yn cyflwyno anwaladrwydd bywyd beunyddiol merch yn ei harddegau mewn modd difyr a chelfydd.
Gweld manylion llawn