Neidio i wybodaeth am y cynnyrch
1 o 1

Triawd Amser, Y: Congo

Triawd Amser, Y: Congo

Pris arferol £6.99 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £6.99 GBP
Ar Werth Ddim ar gael ar hyn o bryd
Trethi wedi'u cynnwys.

Eglurhad mathau fformat

Nifer
Congo yw ail lyfr cyfres Y Triawd Amser sy’n gweld Gwion, Garmon a Gwydion yng nghanol Affrica ym 1924. Gan deithio gyda mintai o dirfesurwyr, mae’r siwrne yn mynd o chwith o’r cychwyn cyntaf wrth i Gwydion syrthio. Mae cnoc gas i’w ben yn golygu ei fod e’n anghofio’n llwyr lle mae e, a’r rheswm dros fod yn y Congo. Pan ddaw ato’i hun, mae ei gymdeithion yn ei atgoffa eu bod wedi dod i’r jyngl i chwilio am stori dda i’w gwerthu i bapurau newydd ar draws y byd. A’r stori honno yw presenoldeb bwci-bo y jyngl, bwgan chwedlonol dyffryn N’gomo, cwm anghysbell sy’n bwydo dwr i afon fawr y Congo, a man lle nad yw’r brodorion yn fodlon mentro. Ai ffrwyth dychymyg y brodorion yw’r bwci, neu oes ’na lawer mwy i’r ubain a’r crochlefain erchydus sy’n treiddio o fieri dyfnaf Affrica? Gan rwyfo ar hyd afon N’gomo ac ymgiprys â hipos anferth, mosgitos sydd am waed pawb, a rhai o’r crocodeils mwya dan haul, mae’r ateb yn dod i’r fei – ac mae rhywbeth enfawr o’i le.
Gweld manylion llawn