Neidio i wybodaeth am y cynnyrch
1 o 1

Derwyddon, Y: Cyfaredd Caer Is

Derwyddon, Y: Cyfaredd Caer Is

Pris arferol £6.99 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £6.99 GBP
Ar Werth Ddim ar gael ar hyn o bryd
Trethi wedi'u cynnwys.

Eglurhad mathau fformat

Nifer
Mae Y Derwyddon: Cyfaredd Caer Is yn ddilyniant o gyfrol gynta’r gyfres Y Derwyddon: Dirgelwch yr Ogam a gyhoeddwyd yn 2006. Yng nghyfrol gynta’r gyfres iasoer hon, sydd wedi ei gosod yn Oes y Seintiau Brythoneg yn y 5ed ganrif, tynnwyd y derwydd Gwynlan i mewn i’r dirgelwch ynghylch llofruddiaethau milain mynachod yr Eglwys Geltaidd. Awgryma’r dystiolaeth yn gryf mai’r derwyddon sy’n gyfrifol am y llofruddiaethau hyn, ond buan y daw gwybodaeth newydd i’r fei sy’n pwyntio’r bys at garfan gyfrin o’r tu fewn i’r Fam Eglwys yn Rhufain. Yn Cyfaredd Caer Is teithia Gwynlan a’i brentis Taran, ynghyd â’r mynach Budog, i ddinas chwedlonol Caer Is. Dinas yw hon a godwyd ger y môr, ac yno y teyrnasa’r dywysoges Dahud, merch y brenin Gralon. Er bod Dahud dal yn driw i hen grefydd y Celtiaid, mae’n ddigon parod i groesawu mynachod yr Eglwys Geltaidd newydd i’w dinas, ac i’w temtio â phleserau mewn neuaddau llawn oferedd a chynteddau o nwyd. Er hynny, mae llawer mwy i’w chyfaredd na’r chwantau amlwg, a daw ei phenderfynrwydd i’r amlwg wrth amddiffyn ei hannibynniaeth rhag unrhyw gais i’w phriodi. Ond pan ddaw’r pendefig diweddara i geisio’i llaw at byrth Caer Is, daw hefyd tystiolaeth ychwanegol i gynorthwyo ymchwil Gwynlan i lofruddiaethau’r mynachod, gyda’r bys yn pwyntio at gysylltiad â hen urdd fileinig yr Eglwys, Dialedd Duw. Mae taflenni geirfa ar gyfer Dysgwyr ar gael i gyd-fynd â'r gyfres hon ar dalenllyfrau.com
Gweld manylion llawn