1
/
o
1
Mêts Maesllan: Map Maesllan
Mêts Maesllan: Map Maesllan
Pris arferol
£2.99 GBP
Pris arferol
Pris gwerthu
£2.99 GBP
Trethi wedi'u cynnwys.
Nifer
Methwyd llwytho argaeledd casglu
Mae Map Maesllan yn rhan o'r gyfres Mêts Maesllan. Dyma gyfres o lyfrau i gynorthwyo plant yng Nghyfnod Allweddol 2 sydd ag anawsterau dysgu penodol i feistroli lythrennedd yn y Gymraeg. Mae'r gyfres yn canolbwyntio ar gamau seinegol a phatrymau iaith sy'n seiliedig ar 'O Gam i Gam' (Griffith, diweddarwyd gan Tomos a Jones, 2009) a'r Ffynhonnel Eirfaol' (Hughes, 1978).
Mae'r llyfrau yn lyfrau byr rhwng 16 a 28 tudalen i ddenu diddordeb y plant hynny sydd fel arfer yn amharod i ddarllen. Ceir gwefan arbennig, www.canolfanpeniarth.org/metsmaesllan ar gyfer y gyfres sy'n cynnwys gweithgareddau digidol a phapur i gyd-fynd â phob llyfr er mwyn cadarnhau'r eirfa a'r patrymau iaith a gyflwynir. Mae'r llyfrau a'r gweithgareddau wedi eu graddoli ar 4 lefel er mwyn datblygu sgiliau darllen a phob un yn adeiladu ar y lefel flaenorol. Lefel 1 (glas) - 6 llyfr yn canolbwyntio ar eiriau cytsain/llafariad/cytsain; Geirfa Lefel 1: Cytseiniaid unigol; llafariaid byr; llafariaid hir; geiriau c-ll-c yn bennaf; geiriau allweddol:a'i, a'r, ei, i'r, i'w, mynd, o'r, wedi, y, yn, yna, yr. Treigladau Lefel 1: Ambell dreiglad meddal p-b, t-d, c0g, b-f, m-f; ambell dreiglad trwynol b-m, d-n; Cystrawen Lefel 1: Brawddegau byr, un cymal; ailadrodd cyson; cysylltair 'a'i gysylltu enwau e.e. Sam a Mim sillgoll 'r, 'n; amser presennol y ferf - dyma, mae, ydw, ydy/yw, dydw, dydy, oes; gorchmynion syml - cod, cer Lefel 2 (gwyrdd) - 8 llyfr yn canolbwyntio ar lythrennau dwbl e.e. ff, ch, rh; Geirfa Lefel 2: Geiriau unsill gyda chytseiniaid clwm, e.e. dant, cefn, ofn; llythrennau dwbl - ch, dd, ll, th, rh, ng, ff, si, ph; geiriauamlsillafog - deusill yn bennaf. Treigladau Lefel 2: Treiglad meddal; treiglad trwynol; dechrau cyflwyno'r treigladau llaes. Cystrawen Lefel 2: Brawddegau cytbwys - dau gyma; defnydd o gysyllteiriau - a, ond; peth ailadrodd; amser amherffaith y ferf. Lefel 3 (oren) - 7 llyfr yn canolbwyntio ar gyfuniadau o gytseiniaid Geirfa Lefel 3: Cytseiniaid Clwm; geiriau amlsillafog, e.e. aderyn, anifieiliaid, anhygoel Treigladau Lefel 3: Treiglad Llaes Cystrawen Lefel 3: Brawddegau hirach a chystrawen ychydig yn fwy cymhleth; ailadrodd patrymau llai cyfarwydd; ffurf gryno'r ferf yn yr amser gorffennol - 3ydd person yn bennaf, e.e. gwelodd, cafodd, clywodd; amser dyfodol - byddaf, bydd. Lefel 4 (coch) - 10 llyfr yn canolbwyntio ar gyfuniadau o lafariaid. Geirfa Lefel 4; Geirfa yn hytrach na thestun mwy heriol; llafariaid clwm, e.e. traed, dwylo, gwyn, Korea; dyblu 'n' a 'r'; geiriau lluosog gyda llafariaid clwm, e.e. ffeithiau, streipiau, mynyddoedd. Treigladau Lefel 4: Treiglo'n ehangach. Cystrawen Lefel 4: Brawddegau mwy cymhleth; defnydd helaeth o briod-ddulliau; ffurf gryno'r ferf yn y gorffennol, e.e. gwelais, rhedais; ffurf amhersonol gorffennol, e.e. darllenwyd, penderfynwyd; cymharu ansoddeiriau - y radd eithaf; rhedeg arddodiad.

Rhannu