1
/
o
1
Trysorau Cudd - Darganfod Treftadaeth Cymru
Trysorau Cudd - Darganfod Treftadaeth Cymru
Pris arferol
£4.95 GBP
Pris arferol
Pris gwerthu
£4.95 GBP
Trethi wedi'u cynnwys.
Nifer
Methwyd llwytho argaeledd casglu
Yn Trysorau Cudd dangosir sut y mae treftadaeth Cymru wedi’i
hailddarganfod a’i hail-ddehongli yn ystod canrif o ymchwil. Ceir ynddo gant o draethodau ac amryw byd o luniau, ynghyd â rhagymadrodd cryno i bob cyfnod, a’r cyfan yn darlunio safleoedd, adeiladau a
henebion sy’n cyfleu hanes Cymru o gyfnod cynhanes hyd heddiw. Bydd y llyfr hardd hwn yn gydymaith gwybodus i bawb sy’n ymddiddori ym mywyd a threftadaeth Cymru, boed hwy’n byw yng Nghymru, yn ymweld â hi neu’n ei hedmygu o bell.
Yn fuan ar ôl cyhoeddi Trysorau Cudd, fe ddarlledir ar BBC2 Cymru, o fis Tachwedd 2008 ymlaen, gyfres deledu mewn pum rhan gan y BBC o dan y teitl Hidden Histories. Bydd hi’n dilyn arbenigwyr y Comisiwn Brenhinol wrth iddynt ddadlennu dehongliadau newydd o dreftadaeth Cymru.
Rhannu
