Neidio i wybodaeth am y cynnyrch
1 o 1

Cyfres Anturiaethau Tintin: Mwg Drwg y Pharo

Cyfres Anturiaethau Tintin: Mwg Drwg y Pharo

Pris arferol £6.99 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £6.99 GBP
Ar Werth Ddim ar gael ar hyn o bryd
Trethi wedi'u cynnwys.

Eglurhad mathau fformat

Nifer
Am y tro cynta ers dros chwarter canrif, mae anturiaethau Tintin unwaith eto ar gael yn Gymraeg, mewn addasiadau newydd sbon o’r Ffrangeg gwreiddiol ar gyfer cenhedlaeth newydd o ddarllenwyr, gan gychwyn gydag addasiad Dafydd Jones, Mwg Drwg y Pharo. Mae degau o Eifftolegwyr wedi ceisio dod o hyd i feddrod coll y Pharo Cih-Osgh, ond diflannu o wyneb y ddaear bu ffawd pob un ohonyn nhw. Ar ôl cyfarfod â’r Eifftolegydd ecsentrig, yr Athro Philemon Ananaeas, mae Tintin a’i gi ffyddlon Milyn hefyd yn cael eu hunain yn chwilota am y feddrod – cyn darganfod bod bedd y Pharo yn cynnwys cyfrinach sy’n llawer mwy arswydus na thywod a mymis. Wrth ddod o hyd i gliw dirgel ar fandyn sigâr, mae Tintin a Milyn yn mynd benben â chiwed o smyglwyr cyffuriau, yn mynd ar siwrne syfrdanol drwy Arabia a’r India, ac yn syrthio’n bendramwnwgl i frwydr ddeallusol yn erbyn dihiryn rhyngwladol.
Gweld manylion llawn