Neidio i wybodaeth am y cynnyrch
1 o 1

Lewsyn Lwcus: Treflan Dalton City

Lewsyn Lwcus: Treflan Dalton City

Pris arferol £6.99 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £6.99 GBP
Ar Werth Ddim ar gael ar hyn o bryd
Trethi wedi'u cynnwys.

Eglurhad mathau fformat

Nifer
Mae Lewsyn Lwcus wedi derbyn swydd newydd fel sheriff Tre Fenter, tre lle mae cyfraith a threfn ar ddisberod, ac anarchiaeth yn rhemp. Ei orchwyl cyntaf yw cael gwared ar holl ddihirod y dre. Yn eu plith mae Clinton Fenter, pen bandit y ddinas bwdwr hon, sy’n cael ei daflu dan glo – i’r un carchar â’r Brodyr Dalton. Haid o bedwar o wylliaid trafferthus yw’r Brodyr, yn amrywio yn eu taldra o’r pwtyn crintachlyd Joe, i fyny trwy Jac, i Wiliam, ac i’r stribyn main hirgoes a dwl Afril. Ar ôl i Fenter baldaruo wrth y Brodyr am ei ddinas wag yng nghanol y paith, mae’r gwylliaid Dalton yn dianc o’r jael, ac yn ail-sefydlu Tre Fenter fel eu dinas eu hunain, Dalton City. Ond heb nemor neb ond hwy eu hunain yn drigolion yn y ddinas ddiflas, mae angen ail-boblogi’r lle. Erbyn hyn mae Lewsyn Lwcus o’i wirfodd yn garcharor i’r gwylliaid Dalton, ac yn cynnig syniad i’r Brodyr sut i ddenu pobol nôl i’r dre – gwahodd holl ddihirod y fro i wledd ysblennydd. Strategaeth gyfrwys dros ben….
Gweld manylion llawn