Neidio i wybodaeth am y cynnyrch
1 o 1

Cyfres Anturiaethau Tintin: Awyren 714 i Sydney

Cyfres Anturiaethau Tintin: Awyren 714 i Sydney

Pris arferol £6.99 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £6.99 GBP
Ar Werth Ddim ar gael ar hyn o bryd
Trethi wedi'u cynnwys.

Eglurhad mathau fformat

Nifer
Ar eu ffordd i Sydney yn Awstralia, mae Tintin, Milyn, Capten Hadog a’r gwyddonydd penchwiban Ephraim R. Efflwfia yn derbyn gwahoddiad Laszlo Carreidas, y miliwnydd sy byth yn chwerthin, i hedfan yn ei awyren breifat. Yn ystod y daith, mae’r awyren yn cael ei herwgipio a’i glanio ar un o ynysoedd diarffordd archipelago anferth ym moroedd Indonesia. Yno mae hen elyn Tintin, Rastapopolos, yn disgwyl amdanynt, sy’n hyderus o allu dwyn perswâd ar Carreidas i ryddhau manylion ei gyfrif banc yn y Swistir. Ond llwydda Tintin a’i griw i ddianc gan geisio lloches mewn hen deml sy’n gartref anghysbell i ymwelwyr annisgwyl o yn bell bell i ffwrdd.
Gweld manylion llawn