1
/
o
1
Cyfres Anturiaethau Tintin: Yr Ynys Ddu
Cyfres Anturiaethau Tintin: Yr Ynys Ddu
Pris arferol
£6.99 GBP
Pris arferol
Pris gwerthu
£6.99 GBP
Trethi wedi'u cynnwys.
Nifer
Methwyd llwytho argaeledd casglu
Mae Tintin a Milyn yn cerdded yn yr awyr iach pan ddont ar draws dau awyrenwr mewn trafferth… a dyna ble mae trafferthion ein harwyr yn dechrau. Tra bod y ddau dditectif Parry-Williams a Williams-Parry yn dilyn eu trwynau eu hunain, mae Tintin yn dilyn trwyn mwy dibynadwy Milyn ac yn mynd ar drywydd criw o ffugwyr arian rhyngwladol – yn eu plith, gwˆr a ddaw’n un o’i elynion pennaf, sef y meddyg Müller. Trwy ddianc â’i fywyd wedi iddo gael ei saethu ar gychwyn yr antur, daw sawl dihangfa i ran Tintin wrth iddo ddilyn y cliwiau a chael ei hun yn y pen draw ym mhellafoedd gogleddol a niwlog yr Alban, yng nghanol hen hanesion tywyll am y bwystfil mawr, a’ Bhèist Mhòr, sy’n trigo yn adfeilion castell a’ Chreag Dubh ar Yr Ynys Ddu. A thua’r ynys y mae Tintin a Milyn yn morio mewn cwch bach bregus i herio chwedl y bwystfil…
Rhannu
