1
/
o
1
Cyfres Anturiaethau Tintin: Anialwch yr Aur Du
Cyfres Anturiaethau Tintin: Anialwch yr Aur Du
Pris arferol
£6.99 GBP
Pris arferol
Pris gwerthu
£6.99 GBP
Trethi wedi'u cynnwys.
Nifer
Methwyd llwytho argaeledd casglu
Wrth ddychwelyd i’r Dwyrain Canol, mae Tintin yn glanio yng nghanol rhyfel tanllyd. Rhywsut rywffordd mae Tintin, Milyn, Parry-Williams a Williams-Parry yn aelodau o’r criw ar long y Speedol Star yn teithio tua’r dwyrain, ac yn cyrraedd porthladd Khemekho-Leone ym mrenhiniaeth Khemed. Cyfoeth y frenhiniaeth yw’r aur du – y meysydd olew islaw twyni’r anialwch – ond mae’n frwydr am oruchafiaeth rhwng yr emir Ben Kalish Ezab a’r shîc Pahra Bhlu, ill dau yn hawlio rheolaeth dros y wlad. A rhwng y ddau saif un dihiryn sy’n ceisio manteisio ar y sefyllfa i’w ddibenion ei hun – dihiryn y mae Tintin wedi dod ar ei draws eisoes – ac yn ei feddiant y mae fformiwla cemegol ag iddo ganlyniadau digon tanllyd. Diolch byth, mae’r fformiwla yn syrthio i ddwylo diogel Parry-Williams a Williams-Parry … ac wrth gael gwared ar un pen tost, dyma un arall yn ymddangos ynghanol y tân gwyllt ar ffurf y tywysog Abdallah, mab yr emir, a’i jôcs bach diddiwedd sy’n boen yn y pen ôl!
Rhannu
