Neidio i wybodaeth am y cynnyrch
1 o 1

Geiriadur Celf, Y

Geiriadur Celf, Y

Pris arferol £8.99 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £8.99 GBP
Ar Werth Ddim ar gael ar hyn o bryd
Trethi wedi'u cynnwys.

Eglurhad mathau fformat

Nifer
Wrth astudio Celf a Dylunio ar gyfer Safon Uwch Gyfrannol a Safon Uwch bydd y myfyriwr angen dod o hyd i ystyr geiriau arbenigol a darganfod mwy am fudiadau celf. Mae’r Geiriadur Celf wedi ei lunio’n unswydd ar gyfer ateb y gofyn hwn. Mae’n cynnwys esboniadau clir a chynhwysfawr ar gyfer cofnodion sy’n allweddol ar gyfer myfyrwyr Celf a Dylunio yng Nghymru, enghreifftiau o waith a all ysbrydoli ymchwil pellach, ynghyd â chyfeiriadau at gofnodion eraill yn y llyfr. Gall y Geiriadur arwain y myfriwr at ddeunyddiau ac esbonio sut maen nhw’n gweithio; gall arwain y darllenydd drwy thema arbennig, ac arwain yr artist ifanc drwy’r elfennau ffurfiol sy’n bwysig ar gyfer creu gwaith celf. Trefnwyd cynnwys a chofnodion y Geiriadur yn ôl trefn yr wyddor er mwyn helpu’r darllenydd i ddod o hyd i wybodaeth yn rhwydd a sydyn. Mae’r Geiriadur hefyd yn cynnwys termau yn Gymraeg a Saesneg, rhestr eirfa a llyfryddiaeth er mwyn hwyluso’i ddefnydd gan fyfyrwyr sy’n gwbl sicr eu Gymraeg, neu fyfyrwyr sydd dim mor rhugl. Seiliwyd y Geiriadur Celf ar Art & Design: The Essential Word Dictionary gan yr athro a’r arholwr Mark White, ac a gyhoeddwyd gan Philip Allen. Comisiynwyd y fersiwn Gymraeg gan Lywodraeth Cymru a’i gyhoeddi dan nawdd Cynllun Adnoddau Addysgu a Dysgu CBAC. Golygwyd y fersiwn Gymraeg gan Dafydd Jones sy’n darlithio mewn Celfyddyd Gain yn UWIC ac sydd wedi bod yn gyfrifol am nifer o lyfrau ac erthyglau ysgolheigaidd yn y maes. Er mwyn gwneud y Geiriadur Celf yn hollol berthnasol ar gyfer myfyrwyr yng Nghymru ychwanegwyd nifer fawr o enghreifftiau o waith celf gan artisiaid o Gymru, gweithiau sydd i’w gweld yng Nghymru, ynghyd â mudiadau celf neu ddulliau sydd â’u gwreiddiau yng Nghymru neu sydd â chysylltiad uniongyrchol â’r wlad. Gyda chyfeiriadau hwylus, esboniadau clir a chyngor arholwr, y Geiriadur Celf yw’r cyfeiriadur perffaith ar gyfer unrhyw un sy’n newydd i’r pwnc, sydd eisoes ar ganol cwrs, neu sy’n adolygu ar gyfer arholiad.
Gweld manylion llawn