Dod yn fânwerthwr

Rydym am gefnogi’r stryd fawr yng Nghymru, felly gall unrhyw siop lyfrau annibynnol ffisegol wedi’i lleoli yng Nghymru, ymuno. Mae angen i chi gysylltu â ni a dweud wrthym ble rydych chi wedi’ch lleoli fel y gallwn ni agor cyfrif i chi. Yna gall cwsmeriaid ar Ffolio eich cefnogi chi, trwy eich dewis chi fel eu siop lyfrau.

Mae Ffolio eisiau diogelu pawb sy’n cefnogi diwylliant llyfrau yng Nghymru. Gall cyhoeddwyr o Gymru ennill mwy o werthu trwy Ffolio, sydd yn ei dro yn cynyddu’r breindaliadau i awduron. Y cyfan wrth gefnogi’r ecosystem gyfan o amgylch llyfrau! Mae pawb yn ennill!

Cwestiynau? E-bostiwch [email protected] i drafod mwy.