Tir na n-Og

Dyma brif wobrau llenyddiaeth i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Sefydlwyd Gwobrau Tir na n-Og gan y Cyngor Llyfrau yn 1976, ac fe’u rhoddir yn flynyddol i anrhydeddu gwaith gwreiddiol ffuglen neu ffeithiol gan awduron ac arlunwyr llyfrau plant yn y Gymraeg a’r Saesneg a gyhoeddwyd yn ystod y flwyddyn flaenorol. Eu nod yw cydnabod, dathlu a hyrwyddo llyfrau o safon aruchel i blant a phobl ifanc.

Cyflwynir tair gwobr sef categori cynradd Cymraeg, categori uwchradd Cymraeg a llyfr Saesneg â chefndir Cymreig dilys.  Noddir y gwobrau gan CILIP Cymru (Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth Cymru). Fel rheol, caiff y rhestr fer ei datgelu ym mis Mawrth gydag enwau’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi ym mis Mai.

GWOBRAU TIR NA N-OG 2022

CATEGORI CYMRAEG – CYNRADD

Gwag y Nos gan Sioned Wyn Roberts  (Atebol 2021) oedd yn fuddugol yn y categori Cymraeg oedran cynradd 2022. Dyma nofel sy’n dod â’r cyfnod Fictoraidd a byd creulon y wyrcws yn fyw trwy anturiaethau Magi, rebel a phrif gymeriad hoffus a direidus y stori. Dilynwn Magi wrth iddi fynd o wyrcws Gwag y Nos i Blas Aberhiraeth, gan gwrdd â chymeriadau cofiadwy ar hyd y ffordd fel Mrs Rowlands, Nyrs Jenat a Cwc. Wrth ddilyn sawl tro annisgwyl yn y stori, rydyn ni a Magi eisiau gwybod yr ateb i un cwestiwn – beth yw cyfrinach dywyll Gwag y Nos?

CATEGORI CYMRAEG – UWCHRADD

Cyfres o bum llyfr yw enillydd y categori Cymraeg uwchradd – Y Pump. Mae llyfrau amrywiol Cat, Tami, Aniq, Tim a Robyn wedi eu golygu gan Elgan Rhys.

Mae Y Pump yn dilyn criw o ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Llwyd, wrth iddynt ddarganfod y pŵer sydd gan eu harallrwydd pan maen nhw’n dod at ei gilydd fel cymuned. Cawn ein tywys gan safbwyntiau unigryw Tim, Tami, Aniq, Robyn a Cat gan ddod i adnabod realiti cymhleth bod yn berson ifanc ar yr ymylon heddiw. Drwy gydweithio â’r golygydd Elgan Rhys, mae pum ysgrifennwr ifanc wedi gweithio ar y cyd ag awduron mwy profiadol i greu’r gyfres uchelgeisiol, arbrofol, bwerus yma.

Teitlau ac awduron y pum cyfrol unigol yw Tim (gan Elgan Rhys a Tomos Jones), Tami (gan Mared Roberts a Ceri-Ann Gatehouse), Aniq (gan Marged Elin Wiliam a Mahum Umer), Robyn (gan Iestyn Tyne a Leo Drayton) a Cat (gan Megan Angharad Hunter a Maisie Awen).

CATEGORI SAESNEG

The Valley of the Lost Secrets gan Lesley Parr (Bloomsbury, 2021) – nofel dwymgalon wedi’i lleoli yng nghymoedd de Cymru – ddaeth i’r brig yng nghategori Saesneg Gwobrau Tir na n-Og 2022 ar gyfer llenyddiaeth plant a phobl ifanc.

GWOBRAU TIR NA N-OG 2021

Y tri llyfr ddaeth i’r brig yng Ngwobrau Tir na n-Og 2021 oedd Sw Sara Mai gan Casia Wiliam (Y Lolfa), #helynt gan Rebecca Roberts (Gwasg Carreg Gwlach) a The Short Knife gan Elen Caldecott (Andersen Press).

CATEGORI CYMRAEG – CYNRADD

Sw Sara Mai gan Casia Wiliam (Y Lolfa, 2020) oedd yn fuddugol yn y categori Cymraeg oedran cynradd yn 2021. Stori gyfoes yw hon am ferch naw oed o’r enw Sara Mai sy’n byw yn sw ei rhieni ac sy’n ei chael hi’n haws i ddeall ymddygiad creaduriaid rhyfeddol y lle nag ymddygiad merched eraill ei dosbarth ysgol. 

CATEGORI CYMRAEG – UWCHRADD

Enillydd y categori Cymraeg uwchradd yn 2021 oedd #helynt gan Rebecca Roberts (Gwasg Carreg Gwalch, 2020). Mae’r nofel yn adrodd stori merch yn ei harddegau o’r Rhyl a’r hyn sydd yn digwydd iddi ar ôl colli’r bws i’r ysgol un bore – digwyddiad digon cyffredin ond un sydd yn newid cwrs ei bywyd. Mwy…

CATEGORI SAESNEG

The Short Knife gan Elen Caldecott (Andersen Press, 2020) – nofel bwerus a chyffrous i bobl ifanc wedi’i gosod yn yr Oesoedd Canol cynnar – ddaeth i’r brig yng nghategori Saesneg Gwobrau Tir na n-Og 2021 ar gyfer llenyddiaeth plant a phobl ifanc

GWOBRAU TIR NA N-OG 2020

Llyfrau’n ymdrin â rhai o bynciau mawr y dydd a ddaeth i’r brig yng Ngwobrau Tir na n-Og 2020 am lenyddiaeth plant a phobl ifanc yn Gymraeg.

Pobol Drws Nesaf gan Manon Steffan Ros a’r darlunydd Jac Jones oedd yn fuddugol yn y categori Cymraeg oedran cynradd. Llyfr llun a stori ar gyfer plant 3–7 oed yw hwn, yn ein hannog i barchu pawb ac i beidio â beirniadu rhywun sy’n edrych ac yn ymddwyn yn wahanol i ni.

Enillydd y categori Cymraeg uwchradd oedd Byw yn fy Nghroen, a olygwyd gan Sioned Erin Hughes. Casgliad yw’r llyfr o brofiadau dirdynnol deuddeg o bobl ifanc sydd wedi gorfod brwydro gyda salwch a chyflyrau iechyd hirdymor. Mae’r cyfranwyr i gyd yn bobl ifanc rhwng 10 a 26 oed, sy’n trafod afiechydon meddyliol a chorfforol fel cancr, epilepsi, clefyd Crohn’s, spina bifida, nam ar y golwg, OCD, iselder a gorbryder.

Nofel Storm Hound gan Clare Fayers a gipiodd y brif wobr yn y categori cyfrwng Saesneg, stori antur ffantasïol sy’n cyfuno chwedloniaeth Nordig a Chymreig.

 

CYNLLUN CYSGODI GWOBRAU TIR NA N-OG

Dyma gynllun unigryw i ysgolion a llyfrgelloedd i godi ymwybyddiaeth o deitlau’r rhestr fer  a chynnig cyfle i fwynhau darllen a thrafod y llyfrau.

Gall ddosbarthiadau neu grwpiau darllen fod yn feirniaid answyddogol a dewis enillydd o blith y rhestr fer gan ddefnyddio pecyn adnoddau arbennig a gynlluniwyd i gefnogi’r cynllun.

I gymryd rhan yn y Cynllun Cysgodi, cysylltwch â [email protected]