Mae ffolio yn hapus i hyrwyddo cynnwys gan unrhyw gyhoeddwyr.
Mae angen sicrhau fod gan yr e-lyfr ISBN sydd yn wahanol i’r llyfr ffisegol, ac fod ISBN gwahanol ar gyfer pob fformat.
Bydd angen darparu metadata am y llyfr, clawr a ffeil wedi ei addasu ar gyfer y cyfrwng.
Mae gwerthu e-lyfrau wedi dod yn gyfrwng mwy poblogaidd o werthu llyfrau, ond dim ond ffolio sydd yn rhoi elfen o’r gwerthiant i siopau llyfrau traddodiadol.
Os byddwch am ystyried ffolio fel eich dosbarthwr e-lyfrau ehangach, bydd ystyriaethau eraill, megis pa gyfryngau rydych am eu defnyddio (Amazon yn defnyddio fformat gwahanol MOBI) ac a ydych am roi hawliau benthyg i lyfrgelloedd.