Sut ydw i’n gallu talu am fy e-lyfr?
Mae’r wefan yn derbyn taliad drwy gerdyn neu Paypal, ac yn derbyn cod disgownt drwy wefan Foxycart. Yn anffodus, ni allwn dderbyn unrhyw ffurf arall o daliadau.
Nid oes modd defnyddio tocynnau llyfrau, ond fe fydd cynigion arbennig sydd yn caniatáu i chi roi cod i leihau taliad pan fyddwch yn talu.
Beth sydd angen i mi wneud os dwi’n cael problemau talu am elyfr?
Os nad oes botwm talu ar gael ar lyfr, golyga hyn nad oes modd ei brynu ar y foment. Gall hyn fod gan nad yw’r llyfr wedi cael ei gyhoeddi eto, neu lle mae cyhoeddwyr heb ddarparu y llyfr i ni eto. Os oes gennych ddiddordeb mewn llyfr lle nad oes botwm talu, e-bostiwch [email protected].
Oes modd cael ad-daliad am e lyfr?
Os ydych yn cael trafferthion lawrlwytho llyfr, mae modd gweinyddu ad-daliad, ond os yw’r llyfr wedi ei lawrlwytho yn llwyddiannus, nid ydych yn gymwys am ad-daliad, ag eithrio amgylchiadau arbennig, megis ansawdd y trosi.
Dwi di prynu’r e lyfr anghywir, ydw i’n medru cael ad-daliad, a sut?
Cyn belled ac nad ydych wedi lawrlwytho’r llyfr, gellir canslo eich archeb wreiddiol, a gweinyddu ad-daliad. Unwaith rydych wedi lawrlwytho’r llyfr – yn anffodus, nid oes modd gweinyddu ad-daliad.