Stori Sydyn

Cyfres o lyfrau byrion, gafaelgar a all apelio at ddarllenwyr o bob math a gallu – a hynny am £1 yr un yn unig.

Un o brif amcanion cyfres Stori Sydyn yw annog darllenwyr llai hyderus i afael mewn llyfr a rhoi cynnig arni. Cyhoeddir 4 teitl yn flynyddol – 2 yn y Gymraeg a 2 yn Saesneg – ar amrywiaeth eang o themâu. Cydlynir y cynllun gan Gyngor Llyfrau Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Llyfrau byr, cyffrous, wedi’u hanelu at oedolion sy’n cael trafferth i ddarllen neu sydd wedi colli’r arfer o ddarllen. Maen nhw’n wych hefyd ar gyfer darllenwyr sy’n brin o amser!

CYHOEDDI TEITLAU STORI SYDYN 2020

Cafodd llyfrau Stori Sydyn 2020 eu cyhoeddi fel e-lyfrau ac fel llyfrau print. Mae’r llyfrau ar gael i’w prynu yn eich siop lyfrau leol neu gallwch eu benthyg o’ch llyfrgell gyhoeddus agosaf. 

Herio i’r Eithaf – Huw Jack Brassington (Y Lolfa). Mae Huw Jack Brassington yn herio’i gorff a’i feddwl i’r eithaf mewn rasys anhygoel o anodd ar draws y byd, fel y 47 Copa, y Pioneer a’r Coast to Coast. Mae ei stori’n mynd â ni i fyd triathlon, rhedeg a seiclo, ac mae’n dysgu gwersi caled ar hyd y daith.

Pobl Fel Ni – Cynan Llwyd (Y Lolfa). Mae digwyddiadau’r nofel yn ymestyn dros gyfnod o tua 24 awr mewn dinas yng Nghymru yn y dyfodol agos, gydag agweddau a rhethreg hiliol, gwleidyddiaeth asgell dde a sefyllfa economaidd fregus yn gefnlen. Mae’n dilyn hanes Nathan a Sadia, sy’n gariadon, wrth iddyn nhw fynychu cyngerdd. Yn ystod y cyngerdd daw ffrwydrad ac mae’r ddau’n cael eu gwahanu.

Hidden Depths – Ifan Morgan Jones (Rily). Mae Rees wedi bod yn rhedeg i ffwrdd ar hyd ei oes. Ond pan wêl mai ffaith yn hytrach na ffuglen yw chwedl o’i blentyndod, mae’n cael ei dynnu’n ddyfnach i fyd cudd sy’n datgelu gwirionedd cythryblus – nid yn unig am ei bresennol, ond am ei orffennol hefyd. Mae’r dewis yn glir: dal yn ôl neu aros ac ymladd.

Dogs for Life – Alison Stokes (Rily). Yn aml, ein cŵn yw’n ffrindiau gorau ac maen nhw’n rhannu cwlwm arbennig gyda ni. Ond beth petai’ch ci yn fwy nag anifail anwes yn unig? Mae’r llyfr yma yn rhannu straeon am anifeiliaid sydd â swyddi pwysig iawn i’w gwneud, ac yn dangos sut mae rhai anifeiliaid anhygoel yn newid bywydau’r bodau dynol sy’n eu caru.