Gwobr Mary Vaughan Jones

PWY OEDD MARY VAUGHAN JONES?

Mary Vaughan Jones (1918-1983) oedd un o awduron pwysicaf llenyddiaeth plant yng Nghymru. Roedd hi’n athrawes ysbrydoledig, a bu ei gwaith fel darlithydd coleg o werth amhrisiadwy i addysg Gymraeg, ond mae’n debyg mai ei chyfraniad mwyaf gwerthfawr, er hynny, oedd ei chyfraniad cyfoethog a chyson i faes llenyddiaeth plant Cymru dros gyfnod o ddeng mlynedd ar hugain ymron, a hynny er gwaethaf brwydr boenus yn erbyn afiechyd cynyddol.

Cyhoeddodd bron i ddeugain o lyfrau i blant. Mae rhai o’i llyfrau mwyaf adnabyddus yn perthyn i gyfres dysgu darllen sy’n cynnwys Sali Mali, Jac y Jwc a Jini – cymeriadau y mae cenedlaethau o blant wedi tyfu i fyny a dysgu darllen Cymraeg gyda nhw.

Y RHAI SY’N GYMWYS I’W HYSTYRIED

Gwobr Mary Vaughan Jones yw’r anrhydedd Cymreig uchaf ym maes Llyfrau Plant ac fe’i sefydlwyd ym 1985 i goffáu cyfraniad sylweddol ac unigryw Mary Vaughan Jones i lenyddiaeth plant yng Nghymru. Fe’i dyfernir bob tair blynedd a gellir ystyried unrhyw un sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i lyfrau plant yng Nghymru dros gyfnod o flynyddoedd ar gyfer y wobr, boed hynny fel awdur, arlunydd, llyfrwerthwr, llyfrgellydd neu mewn rhinwedd arall.

ENILLWYR

1985 Ifor Owen

1988 Emily Huws

1991 T Llew Jones

1994 W J Jones

1997 Roger Boore

2000 J Selwyn Lloyd

2003 Elfyn Pritchard

2006 Mair Wynn Hughes

2009 Angharad Tomos

2012 Jac Jones

2015 Siân Lewis

2018 Gareth F Williams

2021 Menna Lloyd Williams

Cyfres Whap!: Adref Heb Elin

Gareth F. Williams

$8.49

9781785623585

Cyfres Whap!: Ffrindiau

Gareth F. Williams

$7.49

9781785623714

Cyfres Whap!: Eira Mân, Eira Mawr

Gareth F. Williams

$8.49

9781785623721

Cwmwl dros y Cwm

Gareth F. Williams

$7.49

9781845277635

Y Gêm

Gareth F. Williams

$7.49

9781845277642

Awst yn Anogia

Gareth F. Williams

$9.99

9781784612375

Cyfres Copa: Anji

Gareth F. Williams

$3.99

9781847719676

Cyfres Mellt: Hwdi

Gareth F. Williams

$5.99

9781847717993

Cyfres Pen Dafad: Y Dyn Gwyrdd

Gareth F. Williams

$4.99

9781847717801

Cyfres y Dderwen: Y Ddwy Lisa - Sgrech y Dylluan

Gareth F. Williams

$7.49

9781847716101

Y Tŷ Ger y Traeth

Gareth F. Williams

$10.99

9781847714749