Mae’n debyg na fyddwch wedi darllen nofel o’i thebyg yn y Gymraeg o’r blaen. Mae hon yn sefyll mewn cae ar ei phen ei hun, ac mae ei darllen wir yn brofiad.
Cyfeillgarwch Anest a Deian yw calon y nofel hon. Rydyn ni, ddarllenwyr, yn dod i’w hadnabod fel pobl a gwrando ar eu problemau, eu hofnau, a’u teimladau dyfnaf. Erbyn diwedd y nofel byddan nhw’n teimlo fel pobl go iawn o gig a gwaed, nid cymeriadau mewn llyfr yn unig.
Iechyd meddwl yw thema fawr y nofel ond mae cyfeillgarwch a rhyddid lawn bwysiced. Mae’r ddau gymeriad yn cyfarfod ar hap mewn ysbyty yn ystod gwyliau’r haf, y ddau yn brwydro gyda’u hiechyd meddwl. Tra oedd pawb arall o'i chyfoedion yn meddwi a mwynhau dyddiau hirion yn yr Eisteddfod a Maes B, roedd Anest yn edrych ar y sêr drwy ffenest ei hystafell blaen yn yr ysbyty.
Mae Deian yn greadur unig ac eithriadol o swil. Nid yw’n gadael fawr neb i mewn i’w fywyd personol, heb sôn am ei feddyliau. Ar wahân i'w deulu, mae’n debyg mai cyfaill pennaf Deian yw Vincent Van Gogh a’i lyfr The Letters of Vincent Van Gogh.
Creadigrwydd a chreu yw’r ffisig gorau yma, a’r berthynas glòs rhwng orfod creu a cholli gafael ar y meddwl yw'r llinyn arian sy'n rhedeg drwy'r stori. Mae dyfyniad gan y cerflunydd Brenda Elias ar ddechrau’r nofel, a dyfyniadau o The Letters of Vincent Van Gogh wedi eu pupro drwyddo. Mae pawb yn gwybod pawb beth yw tynged yr athrylith hwnnw, ond a fydd creadigrwydd yn ddigon i achub Deian, a sut mae Anest yn mynd i dawelu’r lleisiau sydd mor amlwg yn ei meddwl?
Os yw pobl ifanc am ddarllen nofel sydd yn mynd i adlewyrchu eu hiaith, eu bywydau a’u Cymru cyfoes nhw, yna hon yw’r nofel sydd am wneud hynny.
Yn y tudalennau ola mae rhestr o rifau ffôn a gwefannau all fod o gymorth, sy’n adnodd gwych i bobl sy’n dioddef gyda phroblemau iechyd meddwl neu'n poeni am ffrind neu aelod o’r teulu. Yn sicr, bydd darllenwyr yn uniaethu â themâu a chynnwys y nofel, ac yn bwysicaf oll, yn ymestyn allan i bobl.
~Mared Llywelyn