Mae'r stori'n mynd â ni i'r carchar, i gell merch ar streic newyn sy'n cael ei gorfodi i dderbyn bwyd drwy diwb drwy'i thrwyn. Awn i ganol cyffro gweithredoedd y Suffrajéts yn Llundain. Ond down hefyd i bentref chwarel yng ngogledd Cymru lle mae dwy o ferched ifanc yr ardal yn cael eu cyffwrdd gan y cyffro a'r syniadau newydd...
"Rhain ydi'r dyddiau rydan ni'n byw ynddyn nhw. Nid fi ddewisodd nhw."
Hogan beryg ydi Henriét - hi a'i ffrind, Gladys.
Maen nhw'n chwarae efo tân, yn erlid Lloyd George, yn herio'r Drefn ac yn cael eu taflu i garchar.
PAM?
Merched ydyn nhw, a does ganddyn nhw ddim pleidlais.
Pa mor bell fyddech chi'n mynd dros yr hyn a gredwch?